Paperback
Uncovering the rich, untold history of Welsh children’s literature.

Darllen y Dychymyg

Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

$28.82
  • Paperback

    336 pages

  • Release Date

    14 December 2020

Check Delivery Options

Summary

Erbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau’r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan ganolog o addysg pob plentyn yng Nghymru. Ond prin yw’r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael a’r tawelwch hwnnw ynghylch llenyddiaeth plant yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau dros ei harwyddocad cymdeithasol a diwylliannol.

Drwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dengys y gyfrol hon fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig er mwyn deall sut mae syniadau ac agweddau’n cael eu trosglwyddo a’u trawsffurfio. Ymdrinnir yn bennaf ag agweddau tuag at blant a phlentyndod, gan olrhain y modd yr esblygodd y cysyniadau hynny o dan bwysau trawsnewidiadau economaidd a diwylliannol yr oes.

Yng ngoleuni cysyniadau beirniadol Pierre Bourdieu a Michel de Certeau, archwilir y ffactorau oedd cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant yn y lle cyntaf, a’r hyn oedd yn siapio eu hagweddau tuag at eu darllenwyr ifainc. Drwy wneud hynny, mae’r astudiaeth hon yn gosod carreg sylfaen ar gyfer astudio llenyddiaeth plant yn y Gymraeg a’i pherthynas a’i hamgylchfyd hanesyddol a diwylliannol.

Book Details

ISBN-13:9781786836502
ISBN-10:1786836505
Author:Siwan M. Rosser
Publisher:University of Wales Press
Imprint:University of Wales Press
Format:Paperback
Number of Pages:336
Release Date:14 December 2020
Weight:410g
Dimensions:138mm x 216mm
Series:Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
Mass Market
Digest
Darllen y Dychymyg by Siwan M. Rosser - ISBN: 9781786836502
5.43 × 8.50 in
Trade Paperback
US Letter
mm / in
About The Author

Siwan M. Rosser

Mae Siwan M. Rosser yn Uwch-ddarlithydd ac yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.