Paperback
Us and them… are we really so different after all?
Ni a Nhw
$14.10
- Paperback
32 pages
- Release Date
1 December 2024
Check Delivery Options
Summary
Ni ‘dyn ni… a nhw ‘dyn nhw. A s’mo ni’n gwneud dim ‘da nhw.
Pwy yw’r nhw brawychus sy’n codi ofn ar bawb? Mae’r twrch daear yn tyllu i fyny drwy’r pridd a’r wiwer goch yn dringo i lawr y goeden i chwilio am y nhw. Ac yn darganfod bod nhw yn eitha tebyg i ni!
Book Details
| ISBN-13: | 9781801063371 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1801063370 |
| Author: | Sioned Wyn Roberts, Eric Heyman |
| Publisher: | Atebol Cyfyngedig |
| Imprint: | Atebol Cyfyngedig |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 32 |
| Release Date: | 1 December 2024 |
| Weight: | 228g |
| Dimensions: | 4mm x 220mm x 280mm |
Mass Market4.25 × 6.87 in
Digest5.50 × 8.50 in
Trade Paperback6.00 × 9.00 in
US Letter8.50 × 11.00 in

8.66 × 11.02 in
mm / in
You Can Find This Book In
What They're Saying
Critics Review
Dyma lyfr stori-a-llun ddoniol am ddau lwyth sydd wedi bod ofn ei gilydd ers cyn cof. Ond mae’r twrch bach a’r wiwer ifanc yn benderfynol o ddarganfod y gwir am yr ‘eraill’. Ac yn y diwedd yn deall…Does dim gelynion, jest ffrindiau dydyn ni heb gwrdd eto!Cysyniad newydd a gwreiddiol:
- Bydd stori’r twrch yn dechrau o un pen y llyfr a stori’r wiwer o’r pen arall. Y ddau ben-i-waered, yn darllen o’r chwith i’r dde. Ac yn y canol bydd y ddwy stori yn cwrdd gyda darlun o’r twrch a’r wiwer yn chwarae.
- Mae’r twrch o’r ddaear ac mae ganddo acen y de. Mae’r wiwer o’r goeden am mae ganddi acen y gogledd.
- Cyfle i blant a’u teuluoedd fwynhau dau stori mewn un.
Eleni, yn wahanol i’r arfer, doeddwn i ddim wedi darllen pob llyfr a gyrhaeddodd rhestr fer y Gwobrau Tir na n-Og, felly mae hynny’n dasg i’w chyflawni dros y misoedd nesaf. Fodd bynnag, oherwydd fy mab ifanc, roedd hwn yn llyfr oedd wedi cyrraedd ein tŷ ni eisoes, ac roeddwn i’n falch iawn o’i weld yn cymryd ei le ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2025 gan i ni’n dau ei fwynhau. Mae cyrraedd y safle honno yn dipyn o gamp ynddi’i hun, chwarae teg!Os nad ydach chi’n gyfarwydd â’r awdur, mae hi wedi gweithio ym myd y cyfryngau ers blynyddoedd, gan arbenigo mewn rhaglenni ac adnoddau i blant. Ar ben hynny, mae hi’n gyn-enillydd y Gwobrau Tir na n-Og, gan ennill gyda Gwag y Nos yn 2021. Mae’n saff dweud, felly, ei bod hi’n gwybod yn union beth sydd at ddant plant.Y peth cyntaf sylwch chi am y llyfr, heblaw a arlunwaith lliwgar a chwareus Eric Heyman, yw fod ganddo ddau glawr, ac os trowch chi’r llyfr drosodd/wyneb i waered, mae fersiwn arall o’r stori. Mewn dyddiau lle mae costau byw yn brathu, mae cael dwy stori am bris un yn fargen!Cewch yma stori o ddau safbwynt, y twrch sydd yn byw ym mherfeddion y ddaear, a’r wiwer sydd yn treulio’i bywyd fyny fry yng nghanghennau’r coed. Mae’r ddau greadur ifanc yn chwilfrydig am y byd o’u cwmpas, wrth i’r twrch bendroni ‘beth sy’ lan fynna?’ a’r wiwer yn holi ‘be sy’ lawr fanna?’Ar ôl cael atebion digon swta gan eu rheini, penderfyna’r ddau sleifio i ffwrdd yn ddistaw bach a mynd ar antur er mwyn ateb y cwestiynau mawr sy’n eu poeni – gwaith lot mwy difyr na hel cnau diflas neu gysgu, yn siŵr!Er bod y ddau greadur yn amheus iawn o’i gilydd i gychwyn, buan iawn y daw’r ddau yn ffrindiau mawr wrth gael môr o hwyl yn chwarae tan fachlud haul. Dangosa’r stori i blant bach nad oes angen ofni’r hyn nad ydym yn ei ddeall, ac mae’n iach i fod yn chwilfrydig am bobl neu lefydd gwahanol. Caiff hyn i gyd ei gyfleu mewn ffordd sy’n ddealladwy i blant ifanc.Beth sy’n fy nharo i’n syth yw mai’r oedolion sydd yn gul wrth sôn am y “ni” a’r “nhw” ond bod plant y stori yn llawer mwy agored eu meddyliau a goddefgar o bobl newydd/anghyfarwydd. Mae’n braf felly gweld llygedyn o obaith y bydd ein pobl ifanc, sef y genhedlaeth nesaf, yn fwy tebygol o gyd-dynnu a chyd-fyw gyda’i gilydd.Dyma stori unigryw a gwahanol, a dwi’n falch o weld buddsoddiad mewn llyfrau stori-a-llun gwreiddiol o safon.Morgan Dafydd – Simon Rodway @
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.