Paperback
This book relates the experiences of 12 young people who have fought against long-term conditions. They discuss in detail physical and mental illnesses such as cancer, epilepsy, Crohn’s disease, spina bifida, blindness, OCD, depression and anxiety. Tir na n-Og Award Winner 2020.

Byw yn fy Nghroen - Profiadau Pobl Ifanc Sy'n Dioddef yn Dawel

Profiadau Pobl Ifanc Sy'n Dioddef yn Dawel

$15.85
  • Paperback

    176 pages

  • Release Date

    17 June 2019

Check Delivery Options

Summary

This book relates the experiences of 12 young people who have fought against long-term conditions. They discuss in detail physical and mental illnesses such as cancer, epilepsy, Crohn’s disease, spina bifida, blindness, OCD, depression and anxiety. Tir na n-Og Award Winner 2020.

Book Details

ISBN-13:9781784617134
ISBN-10:178461713X
Author:Sioned Erin Hughes, Y. Lolfa
Publisher:Y Lolfa
Imprint:Y Lolfa
Format:Paperback
Number of Pages:176
Release Date:17 June 2019
Weight:244g
Dimensions:142mm x 215mm
Mass Market
Byw yn fy Nghroen - Profiadau Pobl Ifanc Sy'n Dioddef yn Dawel by Sioned Erin Hughes - ISBN: 9781784617134
5.59 × 8.46 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Dyma bobl ddewr sydd yn mynnu dweud eu stori er mwyn helpu pobl eraill sy’n dioddef drwy ddangos sut y maen nhw wedi gallu byw yn eu croen eu hunain. – Cyhoeddwr: Y Lolfa
Dyma gyfrol lle y mae dwsin o bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed yn rhannu eu profiadau o fyw â chyflyrau iechyd hir dymor, a hynny’n gwbl agored ac yn onest.Rhoddir sylw i amrywiaeth eang o gyflyrau: iselder, gorbryder, cancr y gwaed, anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), spina bifida, clefyd y siwgr math 1, epilepsi, ulcerative colitis, clefyd stargardt, CFS/ME, acne a Myasthenia Gravis. Mae enwau rhai o’r cyflyrau yn gyffredin, ond mae’n bosib mai dyma’r tro cyntaf i nifer ohonynt gael eu trafod yn gyhoeddus yn Gymraeg.Egyr y gyfrol â rhagair gan y golygydd, Sioned Erin Hughes, sy’n egluro mai nod y gyfrol yw rhoi “llais i’r sawl sydd wedi ofni eu geiriau eu hunain cyhyd, a hynny ar gownt y stigma”, gan ddangos hefyd nad yw bywyd pobl ifanc yn fêl i gyd.Ceir rhestr hynod ddefnyddiol o beth y dylid, ac na ddylid, ei ddweud wrth rywun sy’n byw â salwch neu gyflwr hirdymor. Er enghraifft, gall rhywbeth mor syml â gofyn ‘Sut wyt ti’n teimlo heddiw?’ fod o gymorth mawr. Rwy’n siŵr y bydd rhestr o’r fath yn annog sgyrsiau, gan fod pobl yn fwy hyderus eu bod yn gwybod beth i’w ddweud.Ceir strwythur a fformat gwahanol i bob pennod, gyda rhai cyfranwyr yn rhannu sut mae’r salwch wedi effeithio arnynt wrth iddynt dyfu i fyny, ac eraill yn penderfynu canolbwyntio ar gyfnod penodol. Er enghraifft, cofnod o ddiwrnod gydag OCD a gawn gan Elis Derby, sy’n dangos bod symptomau ac effaith cyflyrau o’r fath yn amrywio yn ddyddiol. Pwysleisir hyn hefyd gan Mared Jarman, a ddywed nad yw ei golwg hi’n gyson: “mae’n newid o ddydd i ddydd, o awr i awr, o ystafell i ystafell, ac o berson i berson.”Mae’r profiadau a rennir yn y gyfrol hefyd yn llwyddo i chwalu mythau am rai o’r cyflyrau. Wrth feddwl am epilepsi, mae’n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl yn syth am ffitiau. Ond mae darn Liwsi Mô yn ein haddysgu am fath penodol o epilepsi, sef Atypical Absence Epilepsy. Yn yr un modd, mae Elis Derby yn chwalu’r stereoteip niweidiol mai gair i ddisgrifio person taclus neu drefnus yw OCD drwy ddisgrifio’r ‘meddyliau drwg’ a gâi: “darluniau o weld aelodau o fy nheulu yn cael eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain car.”Yr hyn sy’n gwneud y gyfrol yn arbennig yw’r modd y plethir cyflyrau corfforol a meddyliol. Wedi’r cyfan, mae’n anodd meddwl am unrhyw salwch neu gyflwr na fyddai’n cael effaith negyddol ar sut mae rhywun yn teimlo. Sonia Lois Mererid Williams am yr unigrwydd a deimla “fod ’na neb arall yn dallt ‘go iawn’”. Cofnoda Sioned Erin Hughes hefyd fod sgileffaith cyffuriau i drin Myasthenia Gravis yn medru cynnwys mathau o iselder, gorbryder, hysteria a pharanoia.Drwy rannu eu profiadau personol mor agored ac onest, cawn ein haddysgu am realiti byw â chyflyrau hirdymor o ddydd i ddydd. Cawn ddarlun gonest a real o’r cyflyrau, a hynny heb fod yn orddramatig. Er bod y cyfraniadau yn bwerus ac yn ddirdynnol ar adegau, mae gobaith yn amlwg ym mhob un ohonynt.Mae’r gyfrol yn rhoi llais i’r cyfranwyr i rannu eu profiadau, a thrwy hynny addysgu’r darllenwyr am gyflyrau y mae nifer ohonynt yn ddieithr. Mi wnes i yn sicr ddysgu llawer am gyflyrau a dysgu rhywbeth gan bob un o’r cyfranwyr. Rwy’n siŵr bod darllenwyr sydd â phrofiad o’r cyflyrau hefyd yn cael budd a chysur o fedru uniaethu â’r profiadau a rennir.Er mai cyfraniadau gan bobl ifanc a geir yma, mi fyddwn i’n annog pawb i’w ddarllen, gan fod y cyflyrau iechyd a drafodir yn medru effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed. – Manon Elin James @ ffolio.cymru

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.