Hardcover
Myths and legends re-imagined: epic Welsh tales come to life.

Mwy o Straeon o'r Mabinogi

$21.24
  • Hardcover

    160 pages

  • Release Date

    29 June 2024

Check Delivery Options

Summary

This is the follow-up book to the 2016 Tir na n-Og award-winning title, Pedair Cainc y Mabinogi.

Three key stories are featured in this book:

  1. The Prince and the Giant’s Daughter - The Tale of Culhwch and Olwen
  2. Lludd and Llefelys
  3. The Emperor’s Dream

Created by the award-winning team of author Siân Lewis and illustrator Valériane Leblond.

Book Details

ISBN-13:9781804163450
ISBN-10:1804163457
Author:Siân Lewis, Valeriane Leblond
Publisher:Rily Publications Ltd
Imprint:Rily Publications Ltd
Format:Hardcover
Number of Pages:160
Release Date:29 June 2024
Weight:856g
Dimensions:12mm x 246mm x 246mm
Audience Age:7
Mass Market
Digest
Trade Paperback
Mwy o Straeon o'r Mabinogi by Siân Lewis - ISBN: 9781804163450
9.69 × 9.69 in
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Pan gafodd y gyfrol gyntaf o addasiadau Siân Lewis o straeon Pedair Cainc y Mabinogi ei chyhoeddi, gwnaeth tipyn o argraff. Yn wir, enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2016 – fedrwch chi ddim creu llawer mwy o argraff! Wel, ar ôl hir ymaros, mae’r dilyniant i’r gyfrol arobryn honno bellach ar gael, ac mae’n addo mwy fyth o’r hyn wnaeth y gyntaf mor arbennig.I ddechrau, rhaid rhoi sylw i’r llyfr ei hun. Dyma be dwi’n ei alw’n ‘llyfr go iawn!’ Mae’r clawr caled yn rhoi’r ymdeimlad o sylwedd a safon uchel; nid llyfr i’w ddarllen unwaith a’i daflu mo hwn! Na, mae llyfr fel hwn yn rhywbeth i’w werthfawrogi, ei drysori a’i rhannu o fewn teuluoedd. Dyma’r math o lyfr y gall plentyn (neu oedolyn) ddychwelyd ato dro ar ôl tro. A phwy well i addurno’r clawr nag un o’n harlunwyr gorau, Valériane Leblond. O Ffrainc y daw hi’n wreiddiol ac mae Cymru wedi ei mabwysiadau go iawn erbyn hyn. Mae lluniau Valériane yn adnabyddus ac yn cyfleu hud a lledrith hynafol y chwedlau hyn i’r dim. Rhowch y lluniau gorjys yma ynghyd â geiriau Siân Lewis, ac mae gennych chi gyfuniad perffaith.Petaech chi’n gofyn i mi fynd ati i gyflwyno’r Mabinogi i genhedlaeth newydd, bur debyg na faswn i’n gwybod lle i ddechrau. Mae’r awdur, fodd bynnag, yn hen gyfarwydd â sut i wneud hyn, a hithau wedi llunio sawl llyfr arall amdanynt. Yn wir, mae’r Mabinogi wedi cael cryn dipyn o sylw gan gyhoeddwyr yn y blynyddoedd diwethaf, felly beth sy’n gwneud y gyfrol yma’n wahanol? Yma mae’r awdur wedi cael y rhyddid a’r lle i adrodd y straeon mewn ffordd gyflawn a chynhwysfawr iawn. Mae fersiynau symlach o’r straeon yn bodoli eisoes, ond wrth symleiddio, mae’n rhaid tocio ac mae manylion yn cael eu colli. Er mai tair stori sydd yma, sef Culhwch ac Olwen, Lludd a Llefelys a Breuddwyd Macsen Wledig, mae digon o swmp ym mhob un i’ch cadw’n darllen am sbel dda! Mae stori Culhwch ac Olwen yn enwedig, yn un hir a rhyfedd iawn, sy’n addas i’w mwynhau dros sawl darlleniad.Mae’r straeon eu hunain yn amrywiol ac yn fytholwyrdd, gyda rhai o’r negeseuon mor addas heddiw ag yr oeddent pan yr adroddwyd nhw am y tro cyntaf. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae disgwyliadau darllenwyr yn uchel iawn o ran diwyg a gwedd. Rwy’n falch o ddweud na chefais fy siomi gan y gyfrol hardd a moethus yma.Rhamant, dial, trais, cyffro, antur, brwydro, cewri, dewiniaid a dreigiau – mae gan y Mabinogi dipyn bach o bopeth. Beth mwy sydd ei angen? – Morgan Dafydd @ ffolio.cymru

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.