Lobsgows - Cariad y Cymry at fwyd
- Paperback
150 pages
- Release Date
30 October 2025
Summary
Mae perthynas y Cymry a bwyd yn un sy’n agos iawn at ein calonnau, o de bach yn nhŷ Nain i lobsgows Mam a bwydydd parod, newydd, egsotig y 1970au a’r 1980au.
Book Details
| ISBN-13: | 9781845279745 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1845279743 |
| Author: | Ruth Richards, Buddug Wyn Humphreys |
| Publisher: | Gwasg Carreg Gwalch |
| Imprint: | Gwasg Carreg Gwalch |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 150 |
| Release Date: | 30 October 2025 |
| Weight: | 332g |
| Dimensions: | 9mm x 210mm x 210mm |

You Can Find This Book In
Critics Review
Mae’n anodd gwybod sut i ddechrau disgrifio cyfrol newydd yr awdur Ruth Richards. Wrth bori trwy’r tudalennau a dyluniadau dymunol Buddug Humphreys, mae’n teimlo fel llyfr ryseitiau Cymraeg. Ond nid dyna a geir rhwng y cloriau. Ceir awgrym ar y clawr cefn mai cyfrol o ysgrifau sydd yma; ‘yn dwyn i gof atgofion o fwyd a bwyta’. Tybed felly ai ‘cofiant bwyd’ fel yn achos meistresi’r maes llenyddol, cynyddol boblogaidd, hwnnw – MFK Fisher, Ruth Reichl a Bee Wilson – sydd yma?Yn ôl rhagair yr awdur,‘dyliwn bwysleisio o’r dechrau nad ydw i’n fawr o gwc’. Mam bach, am sioc i’r system! ‘Tydw i ddim yn hanesydd cymdeithasol chwaith’, a ‘tydi hwn ddim yn unrhyw fath o hunangofiant’. Erbyn i mi ddarllen y geiriau hynny wnes i ddechrau anobeithio’n llwyr. Sut goblyn fyddai modd sawru cyfrol am fwyd Cymreig, gan awdur sydd, yn ôl ei chyfaddefiad ei hun, heb fawr o angerdd neu arbenigedd yn y maes?Yn bur annisgwyl felly, dyma gyfrol ddeallus, darllenadwy, a hynod deimladwy sy’n treiddio i berthynas gymhleth y Cymry â bwyd. Ac er i’r awdur hawlio mai canolbwynt ei hastudiaeth ‘ydi’r cyfnod o gyhoeddi’r llyfrau coginio Cymraeg cyntaf ar ddiwedd oes Fictoria, hyd at ddegawdau olaf yr ugeinfed ganrif’, mae hefyd yn plethu sylwebaeth sy’n gyson ddoniol, dadlennol a damniol gydag atgofion sydd yn brydferth o boenus a phersonol ar brydiau.Beth sy’n grêt am y gyfrol yw hyd pob ysgrif sy’n archwilio 24 thema gwahanol ar ffurf tameidiau hynod ddanteithiol, ac mae ’na bleser a chyd-destun wrth ddilyn yr hanes yn gronolegol, ynghyd â chyfle i ystyried sawl haenen naratifol. Dysgais gymaint am hanes llyfrau ‘coginio’ Cymraeg, gan ddotio wrth ddarganfod termau newydd (i mi), fel ‘lobscows troednoeth’ am fersiwn llysieuol o’r rysait, a ‘llygaid’ am y ‘perlau saim’ sy’n ymddangos ar ei wyneb.Ond y penodau gorau, a’r rhai sy’n debygol o aros gyda mi, yw’r rheiny sy’n treiddio i gymhlethdodau emosiynol byd bwyd, a’r effaith amlwg ar yr awdur a’r darllenydd. Mae’r gyfrol yn debygol o daro deuddeg gydag unrhyw un sydd wedi profi galar, ond mae ’na hefyd gyfraniadau gwerthfawr sy’n cyffwrdd â diwylliant colli pwysau ac anhwylderau bwyta, ynghyd ag enghreifftiau llawer ‘ysgafnach’ yn ymwneud â chinio ysgol a phrofiadau teuluol. Yn wir, mae sawl enghraifft yma lle y gwnes i rowlio chwerthin wrth eu darllen, ac mor fyw yw nifer o ddelweddau’r awdur, yn arbennig yn achos pennod ‘Y Ffured’. Wrth ddarllen ces f’atgoffa o rai o gymeriadau mwyaf grotesg Roald Dahl. Ond yn wahanol i’w berthynas yntau gyda’i ddylunydd Quentin Blake, deallais paham nad oedd angen i artist y gyfrol hon, Buddug, beintio darlun o’r ‘greadures’ ar ein cyfer.Ond yn gyson ar hyd y gyfrol dychwelir at sgileffeithiau galar yr awdur ac aelodau ei theulu, a dyma lle mae’r holl ‘sgwennu bwyd’, ac yn wir, y gyfrol ar ei mwyaf pwerus. Yn yr ysgrif orchestol ‘Llyfr Ryseitiau fy Mam’ pendiliais rhwng yr ysfa i gynnig coflaid fawr i’r awdur, a’i siarsio i arbrofi â rysait idiot-proof ceuled lemwn Bryn Williams pe na bai hi am fynd ati – yn gwbl ddealladwy - i ail-greu ‘emylsiwn perffaith’ lemon cheese ei mam.Mae’r bennod hyfryd hon yn feicrocosm o’r gyfrol gyfan, wrth gynnig portread byw o Gymraes yn ei chynefin – a’i chegin – drwy gydol yr ugeinfed ganrif a thu hwnt. Ceir hanes cymdeithasol, ambell ddeigryn a joch da o hiwmor, ond cynhwysyn hudol y gyfrol yw cariad; a beth, mewn difri calon, yw cawl neu lobsgows ond cariad mewn powlen? – Lowri Haf Cooke @ ffolio.cymru
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.