Paperback
Plaid Cymru’s journey from fringe to devolution.

Rhoi Cymru’n Gyntaf, 2nd Edition

Syniadaeth Plaid Cymru

$31.24
  • Paperback

    288 pages

  • Release Date

    14 July 2025

Check Delivery Options

Summary

Yn y gyfrol arloesol hon mae Richard Wyn Jones yn olrhain datblygiad syniadaethol Plaid Cymru o’i geni ym misoedd gaeaf 1924–5 hyd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn haf 1999. Trwy gyfrwng astudiaeth wreiddiol a heriol o gredoau gwleidyddol ei harweinwyr pwysicaf – Saunders Lewis, Gwynfor Evans a’r ddau Ddafydd, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley – cawn ddilyn ymdaith y Blaid o gyrion y llwyfan gwleidyddol hyd at drothwy’r Gymru ddatganoledig. Rhoddir sylw arbennig i’r datblygiadau a welwyd ym mholisïau cyfansoddiadol ac economaidd y Blaid, yn ogystal ag yn ei safbwynt tuag at yr iaith Gymraeg. Seilir y gyfrol ar drafodaeth awdurdodol ar natur cenedlaetholdeb a syniadau cenedlaetholgar, trafodaeth sy’n ein galluogi i ddeall datblygiad syniadaethol Plaid Cymru oddi mewn i gyddestun hanesyddol a rhyngwladol ehangach. Dyma lyfr sy’n bwrw goleuni newydd, dadlennol a dadleuol ar Blaid Cymru.

Book Details

ISBN-13:9781837723843
ISBN-10:1837723842
Author:Richard Wyn Jones
Publisher:University of Wales Press
Imprint:Gwasg Prifysgol Cymru
Format:Paperback
Number of Pages:288
Edition:2nd
Release Date:14 July 2025
Dimensions:138mm x 216mm
Mass Market
Digest
Rhoi Cymru’n Gyntaf, 2nd Edition by Richard Wyn Jones - ISBN: 9781837723843
5.43 × 8.50 in
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

‘Dyma gyfrol sy’n gyfuniad o ddadansoddi eglur ar syniadaeth cenedlaetholdeb yn gyffredinol, a dehongli meistrolgar ar syniadaeth wleidyddol prif arweinwyr Plaid Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae’n gynhwysfawr, yn awdurdodol a chyffrous o bryfoclyd mewn mannau. Ni all y sawl a’i darlleno beidio ag ymateb yn fywiog iddi. Bydd yn arweiniad diogel i’r sawl sy’n anghyfarwydd â’r maes; bydd hefyd yn agoriad llygaid i sawl “hen law”.’ – Dr Meredydd Evans (1919–2015)
‘Bydd campwaith Richard Wyn Jones yn llawlyfr angenrheidiol i bawb sy’n ymwneud â chynllunio dyfodol y Blaid a chynllwynio dyfodol Cymru.’ – Cynog Dafis, Barn
‘Cyfrol gampus sy’n byrlymu â syniadau arloesol a sylwadau treiddgar … ffres, cytbwys, gafaelgar.’ – Robin Okey, Gwales
‘Cyfrol wreiddiol, gwefreiddiol ar brydiau, sy’n dyfnhau ein dealltwriaeth obrif arweinwyr Plaid Cymru a syniadaeth y Blaid yn gyffredinol.’ – Daniel G. Williams
‘Cyfrol ysblennydd … yn wir arloesol ac yn torri cwys newydd yn hanesyddiaeth Cymru.’ – J. Graham Jones, Y Cymro

About The Author

Richard Wyn Jones

Yr Athro Richard Wyn Jones yw Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.