Cyfres Amdani: Gêm Beryglus
- Paperback
100 pages
- Release Date
14 October 2020
Summary
Addasiad gan Pegi Talfryn o Man Hunt gan Richard MacAndrew ar gyfer dysgwyr Cymraeg lefel canolradd. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol a’r llwybrau cerdded. Ond mae’r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal.
Book Details
| ISBN-13: | 9781912261291 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1912261294 |
| Author: | Richard MacAndrew, Pegi Talfryn |
| Publisher: | Atebol Cyfyngedig |
| Imprint: | Atebol Cyfyngedig |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 100 |
| Release Date: | 14 October 2020 |
| Weight: | 208g |
| Dimensions: | 10mm x 147mm x 210mm |

You Can Find This Book In
Critics Review
Mae Gêm Beryglus yn stori drosedd sy’n digwydd yn ardal Bannau Brycheiniog, lle mae llofrudd wedi lladd ei ysglyfaeth gyntaf.Mae’r awdur yn ysgrifennu mewn ffordd ddiddorol, gan ddechrau yn y person cyntaf, sef y llofrudd, ac wedyn newid i’r trydydd person wrth ddilyn yr ymchwiliadau gan yr heddlu a’r ymdrechion i ddal y llofrudd. Mae e’n newid yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau safbwynt, ac fel hyn mae’r darllenydd yn dilyn stori’r llofrudd ar un ochr – ei gynlluniau a’r llofruddiaethau – ac ar yr ochr llall yn dilyn stori’r Ditectif Arolygydd Cadog Williams, y Rhingyll Heledd Davies a’r swyddog fforensig Ffion Roberts. Mae’n ddull effeithiol, oherwydd ar y dechrau mae’r darllenydd yn gwybod beth mae’r llofrudd yn mynd i’w wneud, a hefyd ble, pryd a sut, cyn i’r heddlu wybod. Felly’r dirgelwch yw pam, a phwy yw’r llofrudd mewn gwirionedd.Tra bod y stori yn mynd rhagddi mae’r llofruddiaethau yn dod yn agosach at ei gilydd ac mae sawl trywydd a chliw yn arwain yr heddlu at yr atebion, ac yn y diwedd at uchafbwynt cyffrous.Ar y dechrau ro’n i’n teimlo ychydig bach yn anghyfforddus ynghylch darllen meddyliau llofrudd, ond wedyn dechreuais fod eisiau gwybod mwy am y cymeriadau. Dysgais i fwy am seicoleg trosedd, sut mae’r heddlu yn gweithio mewn sefyllfa fel hyn, a pha mor anodd yw eu gwaith.Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd, ac mae’r eirfa ar waelod y tudalennau yn ddefnyddiol. – Rosina Roberts de Sousa @
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.