Paperback
Welsh kids find Arthur, but saving the world is harder.

Anturiaethau'r Brenin Arthur

$14.82
  • Paperback

    124 pages

  • Release Date

    25 April 2024

Check Delivery Options

Summary

Who is the hero that Wales needs today? A group of children from Bannau Brycheiniog think they know the answer! It will be an easy task to find King Arthur, to wake him and persuade him to help them to save the world. But they are unprepared for the adventure that follows…

Book Details

ISBN-13:9781845279462
ISBN-10:1845279468
Author:Rebecca Thomas
Publisher:Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:Gwasg Carreg Gwalch
Format:Paperback
Number of Pages:124
Release Date:25 April 2024
Weight:158g
Dimensions:12mm x 128mm x 198mm
Audience Age:12
Mass Market
Anturiaethau'r Brenin Arthur by Rebecca Thomas - ISBN: 9781845279462
5.04 × 7.80 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Y peth cynta sy’n taro rhywun am y llyfr hwn ydy’r clawr hynod drawiadol. Mae’n sicr yn ennyn diddordeb yn syth, gyda darluniau Lleucu Gwenllian yn dangos criw o bobl ifanc yn teithio ar fws gyda chymeriad coronog, ac eitemau amrywiol yn eu dwylo. Yn ogystal â’r clawr arbennig, mae pethau’n argoeli’n dda am stori antur gan fod map ar ddechrau’r gyfrol!Wrth fodio drwy’r tudalennau cyntaf, amlygir ar unwaith fod yma gyfrol wahanol ac uchelgeisiol, oherwydd caiff y darllenydd ei groesawu gan ddiagram lliwgar yn arddangos yr hyn sy’n drysu’r Brenin Arthur, ac yna sawl tudalen sy’n adrodd sgwrs grŵp dros negeseuon ffôn. Mae’r cyflwyniad bywiog hwn yn sicr o fod at ddant y gynulleidfa darged o bobl ifanc.Yr hyn a geir yma yw stori am griw o blant Blwyddyn 9 sy’n mynd ar antur i weld os gallan nhw ddod o hyd i’r Brenin Arthur yn ystod trip ysgol i Graig y Ddinas. Yn ogystal â chynnwys rhywfaint o wersi hanes, mae’r thema o ofalu am yr amgylchedd ac wynebu’r argyfwng hinsawdd yn rhedeg fel llinyn drwy’r stori. Mae’r criw yn awyddus i ddeffro un o arweinwyr y gorffennol, gan nad yw arweinwyr y presennol yn gwrando ar eu pryderon. Maen nhw am weld a wnaiff arweinwyr a chwmnïau mawr wrando ar lais y Brenin Arthur. Cyffyrddir ar bynciau llosg eraill hefyd, gan gynnwys bwlio ar-lein a thawelu lleisiau eraill er mwyn rheoli. Mae neges amlwg arall yma hefyd, sef bod gan bawb gymeriad gwahanol, a bod hynny’n iawn – gan fod gan bob unigolyn ei nodweddion sy’n ei wneud yn berson arbennig.Mae’r penodau a’r stori yn neidio rhwng profiad y Brenin Arthur a phrofiadau’r bobl ifanc, ac oherwydd hynny mae tipyn o gyflymder i’r stori wrth i’r darllenydd fod yn awyddus i ddarllen ymlaen i weld sut mae’r stori’n datblygu. Mae’r awdur yn adeiladu tensiwn yn gelfydd iawn, a hynny dro ar ôl tro – eto, gan sicrhau diddordeb y darllenydd a’i annog i barhau â’r darllen.Mae’r stori’n llawn cyffro, ac fe ychwanegir at naws y stori trwy ddisgrifiadau gwych o deimladau ac emosiynau’r cymeriadau. Caiff y darllenydd gyfleoedd i ddod i adnabod yr holl gymeriadau lliwgar a diddorol, ac mae sawl disgrifiad yn codi gwên. Yn ychwanegol, mae ’chydig o hiwmor i’w gael man hyn a man draw, yn bennaf wrth i gymeriad o’r gorffennol pell geisio deall y presennol a’i ryfeddodau.Dyma gyfrol werth chweil i unrhyw un sy’n hoffi ’chydig o antur ar ffurf stori sy’n symud yn gyflym. A’r peth olaf sy’n taro rhywun yw’r tro bach annisgwyl yn y gynffon – bydd rhaid i chi ddarllen hyd y dudalen olaf cyn ei ddarganfod! – Awen Schiavone @ ffolio.cymru

About The Author

Rebecca Thomas

Daw Rebecca Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol. Wedi treulio cyfnodau yn astudio a gweithio ym Mhrifysgolion Caergrawnt a Bangor, mae bellach yn ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd. Hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol yw ei harbenigedd. Mae’n awdur dwy nofel hanesyddol – Dan Gysgod y Frenhines (2022) a Y Castell ar y Dŵr (2023).

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.