Paperback
Coal mine revolt and a boy’s underground journey.

Rhedyn, Merlyn y Mawn

$14.82
  • Paperback

    196 pages

  • Release Date

    16 May 2024

Check Delivery Options

Summary

Nofel am byllau glo ardal yr Wyddgrug yng nghyfnod Terfysg 1869, gan ddilyn merlyn a gaiff ei yrru o fynydd Hiraethog i weithio dan ddaear.

Book Details

ISBN-13:9781845279486
ISBN-10:1845279484
Author:Myrddin ap Dafydd
Publisher:Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:Gwasg Carreg Gwalch
Format:Paperback
Number of Pages:196
Release Date:16 May 2024
Weight:220g
Dimensions:12mm x 128mm x 198mm
Audience Age:12
Mass Market
Rhedyn, Merlyn y Mawn by Myrddin ap Dafydd - ISBN: 9781845279486
5.04 × 7.80 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Ffuglen hanesyddol arbennig o gelfydd a geir yn Rhedyn, Merlyn y Mawn gan Myrddin ap Dafydd. Mae’r stori wedi’i gosod yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn pontio cyfnod o rhyw bum mlynedd. Bachgen ifanc a merlyn yw conglfaen y stori, a hynt a helynt eu bywydau wrth i’r ddau aeddfedu ac ymestyn eu gorwelion.Mae’r gyfrol wedi’i rhannu’n ddwy – yn storïol ac yn ddaearyddol, a’r ddwy ran yn wrthgyferbyniol mewn sawl ffordd. Agorir y nofel yn ardal wledig Gwytherin, Mynydd Hiraethog, cyn symud ymlaen i ardal pyllau glo yr Wyddgrug. Ceir cyferbyniad amlwg rhwng y golygfeydd mynyddig, rhyddid, ac awyr iach yr ucheldiroedd, a’r golygfeydd tanddaearol, cyfyng, a thywyllwch afiach y pyllau glo.Ar ddechrau’r gyfrol, ceir rhestr o rai o gymeriadau’r nofel. Mae’n debyg y byddai rhai’n poeni bod hynny’n arwydd o stori gymhleth gyda gormodedd o gymeriadau, ond nid felly y mae hi – gall y rhestr fod yn ddefnyddiol, ond nid yw’n angenrheidiol. Mae yma hefyd fap o ardal Hiraethog, a chyn yr ail ran ceir map o ardal pyllau glo’r Wyddgrug, sydd eto’n ddefnyddiol a diddorol wrth ddilyn y stori a theithiau’r cymeriadau.Egyr y gyfrol gyda phrolog sy’n cynnwys golygfa drawiadol. Mae’n disgrifio Tomos yn colli ei ffordd mewn storm eira. Mae’r brawddegau byrion a’r disgrifiadau synhwyrol yn gosod yr naws yn gelfydd, gan ddal sylw’r darllenydd yn syth, a rhaid darllen ymlaen yn awchus i wybod beth fydd tynged Tomos. Awn ymlaen rhyw chwe mis erbyn y bennod gyntaf, a down i adnabod Berwyn, y taid, ac Ifan, ei ŵyr pedair ar ddeg oed mewn pennod sy’n agor y drws i amgylchiadau byw ac arferion cefn gwlad Cymru’r cyfnod. Cawn ein cyflwyno i fwy o’r teulu hefyd – Siân, y fam, ac Eirwen, y ferch bymtheg mlwydd oed, gan gael cip o sefyllfa’r ferch yng nghymdeithas canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.Rydyn ni’n dilyn hanes Ifan, sy’n gorfod chwilio am waith gan nad yw’r tyddyn bach lle mae’n byw yn ddigon mawr i’w gadw. Teimla fod cyflog gwas ffarm yn isel, ac felly ymuna â’r Gwyddelod sy’n gweithio yn yr ardal wrth iddynt fynd â chriw o ferlod mynydd i’r pyllau glo yn yr Wyddgrug. Mae ganddo rhyw gysylltiad annisgwyl gydag un o’r merlod hynny, a gwelwn y berthynas yn dyfnhau wrth i Ifan gael gwaith yn y pyllau. Fe ddysgwn ni lawer o’r nofel hanesyddol hon – am dlodi cefn gwlad Cymru, ac am realiti brawychus ac anghyfiawnderau bywyd tywyll y pyllau glo. Fe ddysgwn hefyd am ddaearyddiaeth yr ardal, ac eglurhad o ystyr Mynydd Hiraethog, ynghyd ag enwau hyfryd y mynyddoedd. Yn ogystal, cawn ddysgu llawer am glyfrwch y dulliau o drin merlod gwyllt y mynyddoedd, ac arferion pobl ifanc wrth gael ’chydig o hwyl gyda nhw.Drwyddi draw, ceir disgrifiadau arbennig iawn, sy’n dadlennu llawer heb ddweud yn blwmp ac yn blaen, yn enwedig gyda sylwadau am gymeriadau sy’n dweud llawer am bersonoliaethau’r unigolion amrywiol. Rhaid sôn am y llu o lysenwau bendigedig sydd yma hefyd, o Dei Crys Glân i Harri Mochyn, ac o Jona Ded Loss i Traed Chwadan. Mae’r cyfan yn ddoniol ac yn adlewyrchu gwirionedd llysenwau Cymraeg organig.I ategu’r dawn dweud gonest, mae’r gyfrol yn frith o enghreifftiau o dafodieithoedd lleol, sy’n rhoi teimlad agos-atoch i’r arddull gan dynnu’r darllenydd i mewn i fyd yr hanes. Mae’r iaith yn gyfoethog iawn drwyddi, ond nid yw hynny’n golygu ei bod yn anodd i’w deall – mae’n llifo’n hyfryd; ac er ei bod wedi’i hanelu at bobl ifanc, bydd unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes yn siŵr o gael pleser o’i darllen. – Awen Schavione @ ffolio.cymru

About The Author

Myrddin ap Dafydd

Myrddin ap Dafydd is a poet and publisher, originally from Llanrwst and has lived in Llwyndyrys, Llŷn for 25 years. He won national chairs and was the first Children’s Poet of Wales in 2000. He founded Carreg Gwalch Press in Llanrwst in 1980, contributing a number of diverse volumes to its programme.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.