Paperback
Friends remember Dewi Pws with love, laughter, and cherished memories.

Diolch Dewi! - Ffrindiau'n Cofio

Ffrindiau'n Cofio

$19.81
  • Paperback

    152 pages

  • Release Date

    10 June 2025

Check Delivery Options

Summary

A volume to commemorate Dewi Pws. Friends pay tribute to him - with memories and many photos.

Book Details

ISBN-13:9781845279653
ISBN-10:1845279654
Author:Myrddin ap Dafydd
Publisher:Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:Gwasg Carreg Gwalch
Format:Paperback
Number of Pages:152
Release Date:10 June 2025
Weight:248g
Dimensions:12mm x 168mm x 240mm
Mass Market
Digest
Trade Paperback
Diolch Dewi! - Ffrindiau'n Cofio by Myrddin ap Dafydd - ISBN: 9781845279653
6.61 × 9.45 in
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Llyfr fydd yn cael ei ddarllen trwy ddagrau, gwenau a phyliau iach o chwerthin ydy Diolch Dewi!. Er y trefniant cronolegol o fywyd a gwaith Dewi Pws, dyma lyfr y gellir ei agor ar unrhyw dudalen a chael eich tynnu’n syth i fyd y cymeriad y mae Cymru a’i phobl wedi cael y fath fraint o’i alw’n un o’n cyd-wladwyr. Yn hynny o beth mae’r teitl yn gwbl addas ac yn adrodd calon y gwir am un oedd yn ffrind i bawb, ac fel dywed un o’r cyfranwyr, yn ymgorfforiad o’r gair hwnnw sy’n cael ei gam a’i orddefnyddio – unigryw. Dyma flas o’r cyfraniad hwnnw:‘Fe fyddai nifer fawr o bobl yn ei ddisgrifio fel person unigryw. Gair efallai sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun â thalent go arbennig. Ond nid ‘rhywun ’oedd Dewi. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru wedi’i ddisgrifio i’r dim – “Un na fu arall o’i fath yn bod; ar ei ben ei hun; heb ei debyg; digyffelyb; di-hafal digymar; neilltuol a nodedig.” Ia, mewn gair – Dewi.‘Fel y gŵyr pawb sydd wedi derbyn y dasg o ‘dalu’r diolchiadau’, peth hynod beryg ond hawdd ei wneud ydy anghofio enwi pob cymwynaswr sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr achlysur dan sylw. Er i mi ddyfynnu un o’r cyfranwyr, gwell peidio enwi yr un ohonynt, yn hytrach dweud fod pob cyfraniad yn creu cyfanwaith o ‘Ffrindiau’n Cofio’. O’i fagwrfa yn Nhrebôth, a’i grwydro aflonydd rhwng gwlad a dinas a’i angor yn Nefyn, ceir darlun o fywyd Dewi Pws, ei athrylith a’i angerdd dros Gymru gan y bobl oedd yn ei adnabod orau ac sydd yn teimlo’r rhwyg llym o’i golli.Cymru dlawd fyddai honno heb ei Thepot Piws, ei ‘Nwy yn y Nen’, Wayne Cwmderi ac Islwyn Glanrafon. Tlotach fyth heb Edward H, Grand Slam a Torri Gwynt, a thrwy’r ysgrifau sydd rhwng dau glawr y gyfrol hon daw’r diolch yn ddidwyll am gyfraniad, direidi a dwyster Dewi Pws.Cyfeiria sawl un at y dwyster hwnnw, y gwrthbwynt i’r herio a’r tynnu coes, a’r canol llonydd oedd yn datguddio’i hun ar adegau. Cofiwn amdano’n canu’r geiriau: “Weithiau yn y nos rwyt ti’n clywed eu lleisiau / Ffrindiau coll sy’n dod rhwng cyfnos a gwawr” oddi ar y Maen Llog yn Eisteddfod Boduan, a’r chwithdod o beidio ei weld na’i glywed ymhen y flwyddyn ym Mhontypridd.Gadawodd Dewi Pws fwlch anferth o’i ôl, bwlch mae’r gyfrol hon yn ei gydnabod ac yn cadw’r cof yn llawn chwerthin, yn annwyl ddagreuol ac yn hynod ddiolchgar am fywyd Dewi Pws. – Gerallt Pennant @

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.