Chwedlau'r Ddraig: Carreg y Ffin
- Paperback
132 pages
- Release Date
8 January 2025
Summary
Aunt Carys’s shop, situated in the town centre, holds a very special ring named Carreg y Ffin. This valuable item is a target for secret thieves, but their identities remain unknown. Meena and her cousin, Wil, embark on a quest to uncover the mystery behind the attempted thefts.
Book Details
| ISBN-13: | 9781801064392 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1801064393 |
| Author: | Meilyr Siôn, Matt Abbott |
| Publisher: | Atebol Cyfyngedig |
| Imprint: | Atebol Cyfyngedig |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 132 |
| Release Date: | 8 January 2025 |
| Weight: | 124g |
| Dimensions: | 6mm x 128mm x 196mm |
| Audience Age: | 9 |

You Can Find This Book In
Critics Review
Stori antur gyffrous yw Carreg y Ffin gan Meilyr Siôn, sef Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer Ionawr 2025. Fe’i darllenais hi i Llew, fy mab naw oed, ac fe wnaethon ni’n dau ei mwynhau’n fawr. Hon yw’r ail lyfr yn y gyfres antur i blant gan wasg Atebol, Chwedlau’r Ddraig. Y stori gyntaf yn y gyfres yw Cwm y Wrach, a byddwn yn siŵr o fynd ati i ddarllen honno hefyd ar ôl mwynhau hon!Mae’r stori’n dechrau gyda Meena a’i mam, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn ymweld dros wyliau’r Pasg ag Anti Carys a’i mab Wil yn Nhregaron. Ceir cyfeiriadau at dor priodas Anti Carys ac Wncwl Phil ac at effaith hyn ar deimladau Wil. O’r cychwyn cyntaf, mae naws ddirgel a dramatig i’r ymweliad, wrth i rywbeth gwyn annelwig hedfan allan o flaen y car a’i achosi i lithro ar draws y ffordd yn syth i mewn i arwydd ‘Tregaron’. Mae nifer o ddigwyddiadau cyffrous yn dilyn hynny: ymddangosiad dyn amheus yr olwg mewn clogyn du ar gefn ceffyl; ymweliad Dwynwen Draco, menyw ddieithr â chlustlysau â llun tylluan arnynt, sy’n rhoi llyfr arbennig i Menna a Wil; fandaleiddio cerflun pren o Twm Siôn Cati drwy dorri ei ben; ymweliad cwpwl trwsiadus a dirgel; lladrad yn siop Anti Carys; a storm eira fawr.Mae Meilyr Siôn yn sicr yn deall sut i ddatblygu plot sy’n ennyn diddordeb darllenydd ifanc. Yng ngeiriau Llew, ‘Dw i ishe gwybod be sy’n digwydd nesa. Paid â stopio darllen, Mam!’ Roedd Llew’n medru synhwyro’r dirgelwch ac roedd yn dyfalu pa ran oedd gan y cymeriadau i’w chwarae yn y dirgelwch hwnnw, yn enwedig y dylluan, y cymeriad ar gefn ceffyl a’r pâr trwsiadus. Wrth i’r stori fynd rhagddi, ceir cliwiau sy’n dal sylw’r darllenydd, ond ni ddatgelir gormod yn rhy fuan. Daw’r dirgelwch yn eglur yn y diweddglo mewn ffordd daclus a diddorol.Mae diwyg y gyfrol yn ddeniadol ac yn apelgar i blant 9–11 oed, ac rwy’n hoff iawn o’r clawr gan Matt Abbott am ei fod yn cyfleu naws y stori ddirgel i’r dim. Mae’r dyluniad yn syml heb fod yn or-syml, ac mae’n llwyddo i ennyn chwilfrydedd. At hynny, mae’r ffont ar y clawr yn gweddu i natur hanesyddol/ffantasïol y stori.Mae’r darluniau yn y llyfr yn siŵr o apelio at blant hefyd. Maent yn sicr yn ychwanegu at densiwn y stori, a chododd y darlun o’r pen pren ar lawr a welir ar dudalen 23 dipyn o arswyd arnaf i ac ar Llew. Roedd Llew’n torri ei fol eisiau gwybod mwy am arwyddocâd y cyfeiriad at Twm Siôn Cati.Gair arall am y diwyg: mae’r amrywio o ran steil, maint a thrwch y ffont drwyddi draw’n llwyddo i gynnal diddordeb darllenwyr ifanc. Yn wir, gall amrywio o’r math hwn fod yn ffordd effeithiol iawn i leihau’r anfodlonrwydd y gall rhai darllenwyr ifanc ei deimlo pan fyddant yn gweld tudalen gyfan o destun unffurf. Yn hyn o beth, mae i Carreg y Ffin naws gartwnaidd sy’n ymdebygu ar adegau i nofel graffig.Mae’r arddull yn siŵr o apelio at blant hefyd. Un nodwedd ddiddorol yw’r ffaith fod cymeriad Meena’n aml yn defnyddio geiriau Saesneg, ac fe nodir y geiriau cyfatebol yn y Gymraeg mewn swigod siarad yma a thraw. Defnyddir y swigod hyn yn effeithiol hefyd i egluro gwahaniaethau tafodieithol.Mewn gair, mae Meilyr Siôn wedi llwyddo i ysgrifennu stori antur y bydd plant rhwng 9 ac 11 oed yn siŵr o’i mwynhau’n fawr. – Rhiannon Salisbury @ ffolio.cymru
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.