Tu Ôl i'r Awyr
- Paperback
380 pages
- Release Date
22 November 2020
Summary
A pioneering début novel by a talented young writer. It follows the journey of two teenage characters, Deian and Anest, and their amazing relationship through the angst of their lives. A novel that will move you to tears and make you laugh out loud as you wonder at the author’s skill in delving deep into the minds of two characters who will remain with you for a long time.
Book Details
| ISBN-13: | 9781784619299 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1784619299 |
| Author: | Megan Angharad Hunter |
| Publisher: | Y Lolfa |
| Imprint: | Y Lolfa |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 380 |
| Release Date: | 22 November 2020 |
| Weight: | 420g |
| Dimensions: | 130mm x 195mm |

You Can Find This Book In
Critics Review
Mae’n debyg na fyddwch wedi darllen nofel debyg i hon yn y Gymraeg o’r blaen. Mae hon yn sefyll mewn cae ar ei phen ei hun, ac mae ei darllen wir yn brofiad.Cyfeillgarwch Anest a Deian yw calon y nofel hon. Rydyn ni, ddarllenwyr, yn dod i’w hadnabod fel pobl a gwrando ar eu problemau, eu hofnau, a’u teimladau dyfnaf. Erbyn diwedd y nofel byddan nhw’n teimlo fel pobl go iawn o gig a gwaed, nid cymeriadau mewn llyfr yn unig.Iechyd meddwl yw thema fawr y nofel ond mae cyfeillgarwch a rhyddid cyn bwysiced. Mae’r ddau gymeriad yn cyfarfod ar hap mewn ysbyty yn ystod gwyliau’r haf, y ddau yn brwydro gyda’u hiechyd meddwl. Tra oedd pawb arall o’i chyfoedion yn meddwi a mwynhau dyddiau hirion yn yr Eisteddfod a Maes B, roedd Anest yn edrych ar y sêr drwy ffenest ei hystafell blaen yn yr ysbyty.Mae Deian yn greadur unig ac eithriadol o swil. Nid yw’n gadael fawr neb i mewn i’w fywyd personol, heb sôn am ei feddyliau. Ar wahân i’w deulu, mae’n debyg mai cyfaill pennaf Deian yw Vincent Van Gogh a’i lyfr The Letters of Vincent Van Gogh.Creadigrwydd a chreu yw’r ffisig gorau yma, a’r berthynas glòs rhwng orfod creu a cholli gafael ar y meddwl yw’r llinyn arian sy’n rhedeg drwy’r stori. Mae dyfyniad gan y cerflunydd Brenda Elias ar ddechrau’r nofel, a dyfyniadau o The Letters of Vincent Van Gogh wedi eu pupro drwyddi. Mae pawb yn gwybod beth yw tynged yr athrylith hwnnw, ond a fydd creadigrwydd yn ddigon i achub Deian, a sut mae Anest yn mynd i dawelu’r lleisiau sydd mor amlwg yn ei meddwl?Os yw pobl ifanc am ddarllen nofel sydd yn mynd i adlewyrchu eu hiaith, eu bywydau a’u Cymru cyfoes nhw, yna hon yw’r nofel sydd am wneud hynny.Yn y tudalennau ola mae rhestr o rifau ffôn a gwefannau all fod o gymorth, sy’n adnodd gwych i bobl sy’n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl neu’n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu. Yn sicr, bydd darllenwyr yn uniaethu â themâu a chynnwys y nofel, ac yn bwysicaf oll, yn ymestyn allan i bobl. – Mared Llywelyn @ ffolio.cymru
Megan Angharad Hunter
Mae Megan yn dod o Ddyffryn Nantlle ac mae’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp. Yn 2020, enillodd Ysgoloriaeth Awdur Ifanc Llenyddiaeth Cymru.
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.