Paperback
A book for Welsh learners, Entry Level (Mynediad), about Rhodri, who is a native Welsh speaker, and Lucy, his wife who has just started learning.

Cyfres Amdani: Pass y Sugnydd Llwch Darling

$10.35
  • Paperback

    44 pages

  • Release Date

    8 November 2018

Check Delivery Options

Summary

A book for Welsh learners, Entry Level (Mynediad), about Rhodri, who is a native Welsh speaker, and Lucy, his wife who has just started learning.

Book Details

ISBN-13:9781785622403
ISBN-10:1785622404
Author:Mari George, Rhodri Owen, Lucy Owen
Publisher:Gomer Press
Imprint:Gomer Press
Format:Paperback
Number of Pages:44
Release Date:8 November 2018
Weight:74g
Dimensions:147mm x 210mm
Mass Market
Cyfres Amdani: Pass y Sugnydd Llwch Darling by Mari George - ISBN: 9781785622403
5.79 × 8.27 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Mae’n heulog iawn ac mae Gabs wedi anghofio ei sbectol haul. Mae Lucy newydd ddychwelyd o gwrs dwys dysgu Cymraeg ac yn benderfynol o beidio siarad dim ond Cymraeg. Wrth y dŵr mae Rhodri’n rhybuddioGabs i fod yn ofalus ar y cerrig camu, rhag iddo wlychu. Mae Gabs yn gollwng y sbectol haul i’r dŵr. Mae’r rhieni yn dadlau pwy ddylai fynd i mewn i’r dwr i achub y sbectol. Dyw Rhodri ddim eisiau difetha steil ei wallt gan ei fod yn gorfod gweithio y noson honno. I ganol hyn i gyd daw ci’r teulu. Mae rhywun yn wlyb iawn ar ddiwedd y stori ac yn gwisgo dillad ofnadwy o anffasiynol, ond mae Gabs a’r ci yn hollol sych! Tybed pwy sy’n diferu? – Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa
Mae hwn yn llyfr yn y gyfres Amdani sy’n addas i oedolion sy wedi cwblhau Lefel Mynediad ac yn awyddus i roi eu sgiliau newydd ar waith. Mae’n denu diddordeb trwy adrodd stori am bobl go iawn sy’n adnabyddus, sef y cyflwynwyr teledu Lucy a Rhodri Owen, a’u mab Gabriel sy’n ddeg oed.Mae’r stori’n ddigon syml: stori am ddiwrnod pan mae’r teulu’n ymweld â Chastell Ogwr, gyda’u ci Buddy. Mae hiwmor ysgafn trwy gydol y llyfr, gan dynnu coes Rhodri am boeni am sut mae’n edrych o flaen y camerâu teledu, a thynnu sylw at Gymraeg Lucy, sy’n dysgu’r iaith. Mae ambell wall yn ei geirfa (e.e. ‘gwydrau haul’ yn lle ‘sbectol haul’) sy’n cael ei gywiro gan ei mab a’i gŵr, ac mae hi’n tueddu i ddefnyddio geiriau crand y dysgwr yn hytrach na geiriau’r stryd weithiau – sydd hefyd yn cael eu troi’n eiriau cyffredin gan y lleill.Mae’r lluniau hefyd yn ychwanegu hiwmor ac ysgafnder i’r llyfr. Maen nhw’n gyfuniad o ffotograffau o wynebau’r bobl go iawn a chyrff cartwnaidd, sy’n egluro’r stori, ac fel arfer mae un llun ar gyfer pob tudalen o destun.Mae’r awdur Mari George wedi ysgrifennu’r stori mewn iaith seml ac uniongyrchol. Mae’r rhan fwyaf o’r brawddegau’n defnyddio’r amser presennol, gydag ambell ‘roedd’ a ‘bydd’, ond does dim berfau amser gorffennol (e.e. ‘aeth’, ‘gwelodd’). Mae’n defnyddio iaith a geirfa bob dydd a fydd yn ddefnyddiol i bawb. Mae geirfa ar waelod pob tudalen, a hefyd mae’r geiriau sy’n ymddangos yno yn cael eu hamlygu gan brint trwm yn y testun. Bydd hyn yn help mawr i ddysgwyr ar y lefel hon, gan eu galluogi i ddarllen yn weddol ddidrafferth.Er y bydd y llyfr yn dal yn ddigon heriol, gobeithio bydd y profiad o lwyddo i’w ddarllen ac o gael blas arno yn hwb i barhau a symud ymlaen trwy’r llyfrau eraill yn y gyfres. Dylai hyn fod yn sail gadarn i ddod i arfer darllen, a mwynhau darllen – dwy elfen allweddol yn y broses o ddysgu’r iaith. – Philippa Gibson @ ffolio.cymru

About The Author

Mari George

Mae Mari George yn byw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n gyfieithydd ac yn awdur nofelau i blant, ynghyd â bod yn fardd ac yn llenor profiadol sydd wedi ennill Medal Lenyddiaeth a Chadair Eisteddfod yr Urdd.Mae Rhodri a Lucy Owen yn gweithio yn y cyfryngau, Rhodri arraglenni Cymraeg megis Prynhawn Da a Heno a Lucy ar raglenninewyddion BBC Wales. Mae Lucy wedi bod yn dysgu Cymraegac yn 2016 cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf i blant Bw-a-Bog yn yParc.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.