Paperback
Dark Welsh roads, a car crash, and secrets intertwined.

Cyfres Amdani: Llwybrau Cul

$16.59
  • Paperback

    132 pages

  • Release Date

    8 November 2018

Check Delivery Options

Summary

A book for Welsh learners, Advanced Level (Uwch).

There has been a three-car crash on the back-roads of rural Wales one dark night. But what joins the drivers of these vehicles, and how did they end up here?

Book Details

ISBN-13:9781785622380
ISBN-10:1785622382
Author:Mared Lewis
Publisher:Gomer Press
Imprint:Gomer Press
Format:Paperback
Number of Pages:132
Release Date:8 November 2018
Weight:146g
Dimensions:147mm x 210mm
Mass Market
Cyfres Amdani: Llwybrau Cul by Mared Lewis - ISBN: 9781785622380
5.79 × 8.27 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Mae hon yn nofel afaelgar sy’n dilyn cymeriadau diddorol a chymhleth wrth i’w gwahanol fywydau blethu’n un stori. Cwrddwn ag Alfan sy’n ddigartref ers dau fis, a Siwan, menyw gyfoethog, a chawn ddilyn trywydd eu bywydau wrth iddynt ddod i nabod ei gilydd. Ond mae ‘dod i nabod’ yn broses araf a throellog gan fod cyfrinachau gan y ddau am boen a chymhlethdod eu gorffennol. Nid seintiau mohonyn nhw o bell ffordd, ond mae rhywbeth annwyl a chlwyfedig yn y ddau ohonynt sy’n dod yn fwy amlwg ar adegau ac yn ein denu atynt.Mae’r nofel yn dilyn Alfan a Siwan am yn ail, fesul pennod, ond mae eu hanesion yn cael eu cyflwyno yn y trydydd person yn hytrach nag yn lleisiau’r cymeriadau eu hunain. Disgrifir beth sy’n digwydd yn glir, mewn ffordd sy’n hawdd ei dilyn, ac yn aml mae’r stori’n datblygu trwy ddeialogau rhwng Alfan a Siwan, a sgyrsiau gydag eraill yn nes ymlaen. Mae’r hanes yn symud yn ei flaen yn gyflym, gan gadw diddordeb y darllenydd drwyddo draw. Rydym eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, wrth i bethau annisgwyl gael eu datgelu. Oes pobl dda a phobl ddrwg yma, ynteu ydy’r gwirionedd yn fwy amwys na hynny? Dyw’r awdur ddim yn mynd yn ddwfn i bersonoliaeth y cymeriadau, ond dysgwn ddigon i ddeall eu teimladau, eu dyheadau a’u gwendidau.Ysgrifennwyd y llyfr gan Mared Lewis ar gyfer cyfres Amdani i ddysgwyr, a’r mae’r llyfr hwn ar gyfer Lefel Uwch, gyda geirfa addas ar waelod pob tudalen i hwyluso’r darllen. Mae hefyd restr lawn o’r eirfa hon yng nghefn y llyfr. Iaith y gogledd sydd yn y deialogau, ond fydd hyn ddim yn rhy anodd i ddysgwyr Lefel Uwch y de chwaith.Bydd darllen y gyfrol yn brofiad i’w fwynhau gan unrhyw ddysgwr sy’n hoff o stori gref, a bydd yn gymorth i ddysgu ac ehangu geirfa, idiomau a chystrawennau naturiol a chyfoes wrth ymlacio a chyffroi ar yr un pryd. – Philippa Gibson @ ffolio.cymru

About The Author

Mared Lewis

Mae Mared yn byw yn Llanddaniel-fab yn Sir Fôn. Mae’n awdures brofiadol sydd wedi cyhoeddi sawl cyfrol ar gyfer oedolion yn Gymraeg. Mae wedi gweithio fel ymchwilydd i raglenni dogfen ysgafn i S4C.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.