Paperback
A perfect girl’s death unravels dark secrets in a Welsh town.
$14.10
  • Paperback

    192 pages

  • Release Date

    22 November 2020

Check Delivery Options

Summary

Gwenno is dead – perfect, clever, beautiful Gwenno, who is popular with both swots and cool people. Her body was found in the slate mine, the police are everywhere around Bethesda, and everyone is looking for her. But they have no hope of finding her, as they have no idea what she was really like.

Book Details

ISBN-13:9781784619558
ISBN-10:1784619558
Author:Manon Steffan Ros
Publisher:Y Lolfa
Imprint:Y Lolfa
Format:Paperback
Number of Pages:192
Release Date:22 November 2020
Weight:164g
Dimensions:6mm x 123mm x 184mm
Audience Age:12
Mass Market
Llechi by Manon Steffan Ros - ISBN: 9781784619558
4.84 × 7.24 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Daw’n amlwg nad oedd hi’n ferch berffaith wedi’r cyfan…Nofel gignoeth yn llawn dirgel sy’n mynd tu hwnt i ffug-barchusrwydd ac yn portreadu byd gwyllt, amherffaith pobl ifanc. – Cyhoeddwr: Y Lolfa
Mae’r nofel hon yn agor trwy daflu’r darllenydd yn syth i’r dŵr dwfn wrth i’r bennod gyntaf gyhoeddi fod merch ifanc wedi’i darganfod yn farw – wedi ei lladd. Does neb yn gwybod pwy lofruddiodd Gwenno, 16 mlwydd oed, gan adael ei chorff gwaedlyd yn y chwarel, na pham fyddai rhywun yn llofruddio merch ifanc a ymddangosai’n hapus a pherffaith. Ond yn fuan iawn, down i ddeall nad oedd Gwenno yn ferch mor syml â hynny, a datgelir mwy a mwy am ei chymeriad, ei phersonoliaeth, a bywyd cymhleth ei theulu.Dyma nofel ddirgelwch sy’n anodd ei rhoi i’r naill ochr. Gan nad yw pethau fel ag y maent yn ymddangos ar yr wyneb, cawn ein llyncu i’r stori, gan awchu am ddarllen ymlaen er mwyn gwybod beth yn union ddigwyddodd i’r ferch mewn gwirionedd.Adroddir yr hanes yn y person cyntaf trwy lygaid Shane, un o’r bechgyn sydd yng nghriw ffrindiau Gwenno. Cawn glywed am yr ymchwil i farwolaeth ei ffrind ac ymateb unigolion i’w llofruddiaeth, ac edrychir yn ôl ar rai anecdotau anhysbys sy’n cyfrannu at yr eglurhad dros deimladau Gwenno a’r rhesymau dros ei marwolaeth annhymig. Yn fuan iawn, deallwn fod ffrindiau Gwenno yn gwybod mwy nag y maent yn fodlon ei gyfaddef i’r heddlu, a bod ganddynt hefyd resymau da dros guddio’r gwir.Ymhleth yn y stori drosedd, llwydda’r awdur i gyfuno’r dirgelwch gyda phrofiadau bob dydd criw o bobl ifanc – y da, y drwg, a’r hyll. Cyffyrddir â phrofiadau’n ymwneud ag ysgol ac athrawon a’u hymddygiad; perthynas plant â’u rhieni; perthynas pobl ifanc â’i gilydd; cariad a rhyw; alcohol ac yfed dan oed; iselder a chasineb; camdrin merched, a dyn sy’n byrfyrt. Trafodir hefyd y gwahaniaethau rhwng dosbarthiadau cymdeithasol y Cymry Cymraeg, a’r effaith gaiff eu cefndir ar fydolwg pobl ifanc. Dyma stori emosiynol sy’n cynnwys disgrifiadau gonest a chignoeth drwy ddatgelu cyfres o gyfrinachau.Caiff y darllenydd hefyd gyfle i ddod i adnabod rhywfaint ar dref Bethesda a’i hanes chwarelyddol, ac mae rhai disgrifiadau celfydd iawn yma, yn enwedig wrth ddisgrifio’r chwarel a theimlad y llechi. Mae arddull y gyfrol yn sicrhau bod y darllen yn rhwydd, ac yn gweddu i’r math o stori lle mae darllenydd yn ysu am ddarllen ymlaen yn gyflym er mwyn darganfod y gwir. Tynnir y darllenydd i ganol y stori drwy siarad yn uniongyrchol ag ef neu hi, gan ddyfalu sut mae’r darllenydd yn meddwl a theimlo wrth ei chlywed. Os ydych chi’n ysu am nofel i’ch cipio i fyd trosedd a dirgelwch, bydd hon yn siŵr o blesio. – Awen Schiavone @ ffolio.cymru

About The Author

Manon Steffan Ros

Mae Manon yn awdur, dramodydd ac awdur gêmau llawn amser. Mae wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau, ac wedi ennill Gwobr Tir nan-Og pedair gwaith:

  • Trwy’r Tonnau (2010)
  • Prism (2012)
  • Pluen (2017)
  • Fi a Joe Allen (2019)

Enillodd Llyfr Glas Nebo y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 a Llyfr y Flwyddyn yn 2019. Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Nhywyn.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.