Paperback
Pentreflan bach ar draeth yng nghanolbarth Cymru yw Morfa, ac yno mae Llanw yn byw, merch ddwy ar bymtheg oed sydd yn byw gyda’i Nain mewn un o’r bythynnod bach ger y dwr.
$16.95
  • Paperback

    288 pages

  • Release Date

    31 March 2023

Check Delivery Options

Summary

Llanw, a young girl lives with Gorwel, her twin, and their grandmother in a cottage in a small coastal village in mid-Wales. The Second World War throws its shadow on the family, as Gorwel’s decision has a detrimental effect on Llanw’s life. Another exceptional novel by the author of Blasu.

Book Details

ISBN-13:9781847719232
ISBN-10:1847719236
Author:Manon Steffan Ros
Publisher:Y Lolfa
Imprint:Y Lolfa
Format:Paperback
Number of Pages:288
Release Date:31 March 2023
Weight:322g
Dimensions:130mm x 195mm
Mass Market
Llanw by Manon Steffan Ros - ISBN: 9781847719232
5.12 × 7.68 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Ffon ddeubig i lenor yw llwyddiant. Wrth reswm mae unrhyw awdur yn ymhyfrydu ac yn ymfalcho wrth dderbyn ymateb ffafriol, ond maer disgwyliadaun gallu pwyso’n drwm ar ei ysgwyddau wrth droi at y gwaith nesaf. Blasu gan Manon Steffan Ros yw un o lwyddiannau mawr ffuglen Gymraeg ddiweddar, gan swyno darllenwyr ac ennyn trafodaethau difyr mewn clybiau darllen ar hyd a lled y wlad. Melys moes mwy, a mawr fur edrych ymlaen, ond yn gall iawn, nid ysgrifennu Blasu 2 mae Manon wedii wneud wrth gyhoeddi Llanw. Dyma nofel deimladwy, dawel am ferch swil yn tyfun wraig ar arfordir gorllewin Cymru. Er bod yma stori, gydar darllenydd yn dilyn hanes Llanw ai gefell Gorwel, mae llawer or gyfrol yn perthyn i fyd dychymyg a chwedl, wrth i Llanw droi at hen chwedlau mae wediu clywed gan ei nain a straeon newydd maen eu creu ei hun i wneud synnwyr oi byd. Merch fach sensitif yw Llanw, syn sylwi ar bopeth ai dychymyg yn amlach na pheidio yn ei droi yn rhywbeth brawychus. Mae patrwm yn y pren ar dalcen y cwpwrdd dillad mawr yn ei hystafell wely,patrwm oedd i fod i edrych fel dail ond a oedd yn debycach, mewn gwirionedd, i aeliau dig. Y ddau fwlyn fel llygaid dall. Digon i godi ofn ar unrhyw un. Er eu bod yn efeilliaid, mae Llanw a Gorwel yn gwbl wahanol iw gilydd y brawd yn garismataidd a mentrus, yn gwthio ffiniau ei fywyd ac yn edrych y tu hwnt iw filltir sgwr, at y gorwel, tra bor chwaer, sydd, er gwaethaf ei henw, yn ofnir mr, yn ei hangori ei hun yn gadarn yn ei lle, a hynnyn llythrennol wrth iddi grafu ei henw ar y tywod bob tro maen gadael ei chartref ar draeth Aberdyfi. Eu nain syn magur ddau, mewn ty ar y tywod. Y tyddyn ar lannau Cantrer Gwaelod. Yn l yr hanes, bu farw eu mam Mam Ni Oll - drwy gael ei hysgubo ir mr. Darlun rhamantaidd, cariadus yw hwn ir Llanw ifanc, ddiniwed am wraig hynaws, brydferth, a dyna fel maen aros yn ei meddwl hi. Does dim cwestiynur amgylchiadau, dim ond derbyn y stori syn perir lleiaf o boen. Wrth ir brawd ar chwaer dyfu ar wahn, ac i’r blynyddoedd fynd rhagddynt, dysgu ymdopi a wna Llanw a throi i mewn iddi hi ei hun i raddau helaeth am gynhaliaeth. Cryfder diamaur gyfrol yw prydferthwch telynegol a chyfareddol yr ysgrifennu. Maen apelio at y synhwyrau i gyd, gydag arogl a blas yr heli, awyrgylch gwestyr Corbett ai lonyddwch parchus, ar disgrifiadau o bryderon, ofnau a hoffteraur prif gymeriad yn gwbl fyw yn y dychymyg. Yng nghynildeb y dweud mae gogoniant y gwaith. Dywed, wrth i’r prif gymwriad ailymweld i hen gartref: Pigodd y tawelwch ar hen grachen, gan fygwth tynnu gwaed. Nid nofel i ruthro drwyddi yw hon, ond cyfrol iw mwynhau fel gwin da, un gwydraid ar y tro, gan droi ei blas yn eich ceg ai sawrun foddhaus. Catrin Beard Gellir defnyddio’r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar , trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from , with the permission of the Welsh Books Council. – Cyngor Llyfrau Cymru

About The Author

Manon Steffan Ros

Mae Manon yn byw yn Nhywyn ac yn dod o Rhiwlas, Gwynedd yn wreiddiol. Cafodd ei dwy nofel gyntaf dderbyniad gwych. Enillodd ‘Fel Aderyn’ wobr Barn y Bobl yn 2010 a ‘Blasu’ yn ennill gwobr ffuglen gorau’r flwyddyn yn 2013.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.