Paperback
New school, new fears. Can Gwen find friendship and overcome dread?

Gwen ac Arianrhod

$16.95
  • Paperback

    80 pages

  • Release Date

    29 April 2025

Check Delivery Options

Summary

Moving to a new school is never easy; it’s much more difficult if you don’t fit in. Life has been tedious for Gwen since she moved to Cricieth – the weather is awful, she has no friends, but worst of all – she now has a phobia of swimming. She longs for her life in Cardiff, and more so, she misses her best friend, Non.

Book Details

ISBN-13:9781845278663
ISBN-10:1845278666
Author:Lleucu Gwenllian
Publisher:Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:Gwasg Carreg Gwalch
Format:Paperback
Number of Pages:80
Release Date:29 April 2025
Weight:134g
Dimensions:8mm x 148mm x 210mm
Audience Age:9
Mass Market
Gwen ac Arianrhod by Lleucu Gwenllian - ISBN: 9781845278663
5.83 × 8.27 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Daw newid byd syfrdanol iddi un diwrnod ar lan y môr wrth iddi gyfarfod Arianrhod, tywysoges Cantre’r Gwaelod. Wrth i’r ddwy ddod i ddeall ei gilydd daw Gwen i werthfawrogi ei chartref newydd a darganfod ei hunanhyder unwaith eto.Nofel graffegDyma stori am gyfeillgarwch, galar, a’r trafferthion o dyfu i fyny; ond er gwaethaf hyn i gyd gall bywyd fod yn llawn prydferthwch, os ydych chi’n fodlon cymryd cipolwg o dan yr wyneb. – Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Dyma lyfr sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg. Mae’r nofel graffig hon gan Lleucu Gwenllian a Gwasg Carreg Gwalch yn wledd i’r llygad. Cawn ein tywys yn gelfydd drwy hanes Gwen yn gadael Caerdydd a symud i ogledd Cymru yn dilyn digwyddiad trawmatig. Mae hi’n ei chael hi’n anodd ailafael yn ei thalent yn y pwll nofio wrth i luniau o golli ei ffrind chwarae fel ffilm yn ei meddwl.Dyma lle mae’r stori’n dechrau ac yn syth, mae’r darllenydd eisiau gwybod mwy. Mewn dim o dro, rydym yn cwrdd â Heledd a’i ffrindiau, criw sy’n gwneud bywyd yn anodd iawn i Gwen. Er bod Gwen yn canfod dihangfa ar lan y môr, buan y daw llonyddwch ei hencil i ben wrth i’r merched ei darganfod ac ailddechrau ar ei bwlian.Cawn ein tywys drwy’r stori drwy gyfres o luniau arbennig ac ystod o liwiau hyfryd sy’n newid wrth bod y golygfeydd amrywiol yn cael eu cyflwyo. Mae’n dechrau’n lliwgar yn y pwll, gyda phrysurdeb sefyllfa fel hyn i’w deimlo yn y darlun. Heb yr angen am eiriau, mae newid i’r du a’r gwyn gyda thameidiau o liwiau yn dangos ein bod mewn ôl-fflachiadau. Mae’r symud hwn rhwng y du a’r gwyn a’r lliwiau llawn yn dangos gwewyr meddwl Gwen wrth fyw yn y gorffennol ar yr un llaw tra hefyd yn troedio yn y presennol.Mae’r lliwiau’n newid eto, yn ddyfnach ac yn gyfoethocach y tro hwn, wrth i ni gwrdd â’r môr-forwyn Arianrhod o dan y dŵr. Dyma ble mae elfen hudolus y llyfr yn dechrau ac mae natur chwaraeus Arianrhod yn caniatâu i ni weld ochr arall o gymeriad Gwen. Dyma ble y mae hi’n cael ymlacio, mwynhau a darganfod hapusrwydd unwaith eto. Er bod Arianrhod yn torri rheolau’r wlad o dan y tonnau wrth ddod ag un o’r ‘tir-ddeiliaid’ i’r lle, mae’r ddwy yn mwynhau ymgolli yn nyfnderoedd y môr ac mae hyn yn tanio creadigrwydd Gwen.Drwy fraslunio a lliwiau llachar, mae Gwen yn rhoi ei hatgofion hapus ar bapur ac yn cael cyfle i ddechrau prosesu yr hyn sydd wedi digwydd iddi. Mae hwn yn arwain at ryddhau rhywbeth yn ei meddwl sy’n caniatâu iddi serennu unwaith yn rhagor. Fodd bynnag, nid yw’r cyfan yn fêl i gyd – mae ei rhieni’n pryderi’n ofnadwy amdani, mae’r bwlian yn parhau ac mae’r llyfr yn dod i ben gydag elfen o ddirgelwch. Mae rhywun mewn het a chlogyn du yn chwilio am Gwen … pam? Dydyn ni ddim yn siŵr. Ond wrth weld y person yn sefyll ar y clogwyn yn edrych dros y môr, tybed a ydyn nhw’n gwybod fod Gwen wedi dysgu am fyd rhyfeddol Arianrhod a’i ffrindiau? Mae’r cyfan yn ein gadael ni i eisiau dysgu mwy am beth sydd am ddigwydd nesaf!Drwy gydol y 74 tudalen, rydym yn cael ein tywys yn sensitif drwy gyfres o emosiynau: galar, tristwch, hapusrwydd, pryder, rhyfeddod … ac mae uniaethu â’r cymeriadau yn hawdd, diolch i’r darlunio gwych. Heb fawr ddim geiriau ysgrifenedig, mae’r nofel yn dweud cyfrolau. Bydd yn sicr yn ffordd o gael cynulleidfa ffresh i fwynhau llenyddiaeth Gymraeg, yn ogystal â dod ag elfen newydd i’r rheinny sydd eisoes yn mwynhau beth sydd gan y maes i’w gynnig. Atodiad perffaith i unrhyw silff lyfrau! – Hanna Hopwood @ ffolio.cymru

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.