Dwi'n Gweld Malwoden / I Spot a Snail
Canllaw Cyntaf Byd Natur / My Very First Spotter's Guide
- Board Book
12 pages
- Release Date
31 July 2024
Summary
National Trust’s My Very First Spotter’s Guide: Nature Board Book with Big Flaps
An eye-catching new nature novelty series for babies that love spotting wildlife! This fantastic new board book builds babies’ love of nature with easy-to-lift card flaps and a stimulating question-and-answer text.
Where do snails live? How big is a butterfly? Join in the minibeast adventure.
Book Details
| ISBN-13: | 9781804163917 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1804163910 |
| Author: | Kay Vincent, Eiry Miles |
| Publisher: | Rily Publications Ltd |
| Imprint: | Rily Publications Ltd |
| Format: | Board Book |
| Number of Pages: | 12 |
| Release Date: | 31 July 2024 |
| Weight: | 302g |
| Dimensions: | 12mm x 200mm x 200mm |

You Can Find This Book In
Critics Review
Mae’r cyfnod pan mae plentyn rhwng 1 a 2 oed yn un heriol am nifer o resymau, ond er y diffyg cwsg a’r colli tymer achlysurol neu’r temper tantrums, mae ’na gyfnodau hyfryd hefyd sy’n helpu lleddfu unrhyw stress! Un o’r adegau neis hynny yw’r cyfle i eistedd gyda’ch plentyn (sy’n dangos mwy o ddealltwriaeth erbyn hyn) a mwynhau stori gyda’ch gilydd.Dwi’n ysgrifennu’r adolygiad yma ar ran fy mab, sy’n bymtheg mis, ac o fy safbwynt i fel rhiant. Roedd y clawr lliwgar yn apelio ato’n syth, gyda’r lluniau sgleiniog o greaduriaid yn ei ddenu i ddarganfod mwy. Ar ôl ei gnoi i gychwyn, eisteddodd i lawr a dechrau archwilio’r llyfr, gan ryfeddu a phwyntio at wahanol bethau. Ar hyn o bryd, mae llyfrau codi fflap yn boblogaidd iawn yn ein tŷ ni, ac mae’n ddifyr gwylio’r bychan yn datblygu ei sgiliau motor mân a’i chwilfrydedd naturiol wrth godi’r fflapiau i ddatgelu’r creaduriaid bach sy’n cuddio. Gall y bychan archwilio’r llyfr ar ei ben ei hun, ond wrth ddarllen â rhiant, mae cyfle da i gyflwyno a modelu iaith gan gynnwys geiriau disgrifio, lliwiau a geirfa cwestiynu, i enwi dim ond rhai. Bellach, mae o’n gallu dweud ambell gair syml ac mae’r llyfr yma’n grêt i ddatblygu ei eirfa. Byddai plant ychydig yn hŷn, hyd at 3 oed, yn mwynhau’r llyfr hefyd. Gan ei fod yn llyfr dwyieithog fe gewch chi ddau lyfr am bris un, mewn ffordd!Rydym bellach wedi darllen ac ailddarllen y llyfr sawl gwaith, a dydi’r lluniau syml a llachar byth yn diflasu. Mae fel petai ei fod yn darganfod y llyfr o’r newydd ar bob darlleniad.Ffrwyth partneriaeth rhwng y wasg a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r llyfr yma. Yn ffodus iawn, mae llawer o adeiladau’r ymddiriedolaeth o’n cwmpas yn lleol, a nifer ohonynt gyda gerddi a choedwigoedd ar eu tir. Mae Gerddi Bodnant cyfagos yn rhywle gwych i fynd am antur gyda’r llyfr a chwyddwydr i chwilio am drychfilod a phethau tebyg.Mae llawer iawn o lyfrau codi fflap neu dynnu a gwthio ar gyfer plant bach, felly beth sy’n gwneud y llyfr yma’n wahanol? I gychwyn, mae o wedi derbyn sêl bendith asiantaeth sy’n uchel ei pharch, ac mae nod clodwiw i’r llyfr, sef ceisio cyflwyno cariad at fyd natur o’r cychwyn cyntaf. Fe wyddwn ni oll fod bioamrywiaeth a byd natur o dan fygythiad enbyd o ganlyniad i weithrediadau dynol. Trwy gyflwyno’r pwnc mewn ffordd syml a hwyliog fel mae’r llyfr hwn yn ei wneud, y gobaith yw bydd ein plant yn tyfu i fyny gyda chariad a pharch tuag at natur a bywyd gwyllt. Wedi’r cyfan, nhw yw ceidwaid dyfodol ein planed.
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.