Paperback
A mischievous dog’s classroom adventures will have you in stitches.

Nicsyn Cricsyn ar lan y môr

$12.66
  • Paperback

    96 pages

  • Release Date

    29 April 2026

Check Delivery Options

Summary

The first novel in a fun series about the performances of a mischievous dog in a school classroom.

Book Details

ISBN-13:9781845248116
ISBN-10:1845248112
Author:Jonathan Meres, Myrddin ap Dafydd, Katy Halford
Publisher:Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:Gwasg Carreg Gwalch
Format:Paperback
Number of Pages:96
Release Date:29 April 2026
Dimensions:9mm x 128mm x 198mm
Mass Market
Nicsyn Cricsyn ar lan y môr by Jonathan Meres - ISBN: 9781845248116
5.04 × 7.80 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Fe wnaeth y teitl Nicsyn Cricsyn – achosi pwl o chwerthin direidus acw, a daliodd y clawr deniadol gyda’r ci bach del a’i dafod allan sylw Iori (7 oed) ac Owi (3 oed), sy’n casáu eistedd yn llonydd i wrando ar unrhyw stori!Roeddwn i wedi gobeithio darllen un bennod bob nos efo’r hogiau cyn cysgu, ond fe wnaethon ni orffen y nofel mewn pedair noson wedi iddynt swnian am fwy a mwy o helyntion y ci bach. Nicsyn Cricsyn yw prif gymeriad y nofel – ci annwyl Ysgol Brynllawen. Daw Mr Rhys â Nicsyn i’r ysgol wedi i’w berchennog fynd i gartref gofal. Mae’r disgyblion yn gwirioni ar eu cyfaill bach blewog er ei fod yn dwyn o’u bagiau ac yn pi-pi ar goes y bwrdd! Fel y gallwch ddychmygu, fe achosodd hyn dipyn o giglan yn y gwely!Er gwaethaf ei ddireidi, gwelwn Nicsyn yn meithrin perthynas arbennig â’r disgyblion gan eu helpu i oresgyn eu hofnau a datblygu eu hyder. Mae’r ci bach yn arwr, yn ‘siwper-gricsyn’ erbyn diwedd y nofel – ond rhaid i chi ddarllen y stori er mwyn gwybod pam – er iddo fyrstio pêl y plant, dwyn selsigen a chwalu’r castell tywod!Mae hiwmor y nofel yn hudolus a diniweidrwydd y ddeialog yn ddoniol. Dyma lyfr hawdd iawn i’w ddarllen gyda phenodau byr, iaith syml, testun bras a digon o ofod rhwng paragraffau er mwyn prosesu ac ymlacio. Cipiwyd y llyfr o’m llaw er mwyn craffu ar y lluniau bywiog sy’n dod â’r cymeriadau a’r “ci hanner call a dwl” yn fyw!Mae’r cod QR ar ddiwedd y nofel yn arwain at amrywiaeth cyfoethog o weithgareddau, gan gynnwys tasgau fel lliwio, adnabod gwahaniaethau, trafod, darllen pellach a gweithgareddau creadigol. Mae’n adnodd cyfoes ac ymarferol fydd yn cefnogi athrawon i gynllunio’n effeithiol ac yn galluogi rhieni i feithrin hyder a sgiliau darllen eu plentyn yn y cartref.Un cwestiwn oedd gan yr hogiau ar ddiwedd y nofel: “Mam, plis gawn ni gi?” – Teleri Jones @

About The Author

Jonathan Meres

Mae’r gyfres hon o lyfrau am gi a’i gyfeillion dynol wedi’i chreu gan yr awdur hynod o boblogaidd, Jonathan Meres – awdur dros 30 o lyfrau plant.

Dechreuodd Katy Halford, darlunydd y gyfres, wneud lluniau a chreu ei byd hudolus ei hun pan oedd yn blentyn. Mae wedi’i gwirioni ar dynnu lluniau pobl ac anifeiliaid.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.