Teulu - Stori Plant yr Ysgwrn
Stori Plant yr Ysgwrn
- Paperback
64 pages
- Release Date
18 June 2026
Summary
The story of the Yr Ysgwrn family, including Hedd Wyn, as told by Gerald Williams. Gerald and his brother Ellis went to live with their grandparents after their mother’s untimely death at a young age.
Book Details
| ISBN-13: | 9781845248123 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1845248120 |
| Author: | Haf Llewelyn, Elin Mair Roberts |
| Publisher: | Gwasg Carreg Gwalch |
| Imprint: | Gwasg Carreg Gwalch |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 64 |
| Release Date: | 18 June 2026 |
| Dimensions: | 10mm x 148mm x 210mm |

You Can Find This Book In
Critics Review
Yn y gyfrol hon ceir dau lyfr. Yn y llyfr cyntaf cawn stori ddychmygol drwy lygaid Gerald Williams, wrth iddo ef a’i frawd Ellis fynd i fyw at eu nain a’u taid yn dilyn colli eu mam yn ifanc. Cyflwynir stori Hedd Wyn, ond yn fwy na hynny, cyflwynir y syniad o golled a hiraeth, a phwysigrwydd teulu er mwyn goresgyn hynny.Yn yr ail lyfr, cawn ddeunydd ffeithiol sy’n gefndir i’r stori, er mwyn rhoi hanes a a chyd-destun i’r cyfnod. Cawn gyfle i werthfawrogi awyrgylch yr Ysgwrn a’r fferm fynydd Gymreig. Cawn hefyd olwg ar y weledigaeth i gadw’r lle fel canolfan i’r cenedlaethau i ddod, a’r hyn sydd yn yr Ysgwrn heddiw.Broliant.Llyfr 1 - Mae pethau’n anodd wrth i Gerald Williams adrodd ei stori amdano ef a’i frawd Ellis yn symud i fyw at eu nain a’u taid yn dilyn marwolaeth eu mam yn ifanc. Dyma stori am gariad teuluol sy’n goresgyn ofnau, ac yn dod â hapusrwydd i’r rhai sydd ar ôl drwy gefnogi ei gilydd.Llyfr 2 – Dysgwch am gefndir, traddodiadau a chyd-destun y cyfnod hwn ar fferm fynydd Gymreig, yn ogystal â’r hyn sydd i’w weld yn yr Ysgwrn heddiw, yn dilyn y weledigaeth i greu canolfan i gadw’r lle ar gyfer y dyfodol. – Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Haf Llewelyn
Mae Haf Llewelyn yn awdur a bardd, gan ysgrifennu ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau darllen ar gyfer plant gan gynnwys y gyfres boblogaidd Ned y Morwr, ar gyfer plant sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2014 gyda’r nofel Diffodd y Sêr.
Bu’n gyd-gyfrifol am greu adnodd darllen ar lein ar ffurf cylchgrawn misol o’r enw y Cliciadur/ Clic-it.
Mae gan Haf Llewelyn brofiad eang ym maes dysgu darllen. Bu’n Athrawes Gynradd, yn Athrawes Ymgynghorol ac yn Ymgynghorydd Iaith am bron i 30 mlynedd. Bu’n gyfrifol am greu cyrsiau hyfforddi ym maes llythrennedd, ac yn arbennig mewn datblygu darllen, gan greu adnoddau a chreu sesiynau enghreifftiol trwy Gymru gyfan. Bu’n gweithio ar brosiectau pontio yng Ngwynedd a bu’n llywodraethwr ysgol gyda chyfrifoldeb am lythrennedd am dros 20 mlynedd. Bu hefyd dros y blynyddoedd ar sawl panel ymgynghorol ym meysydd llythrennedd a hanes.
Mae bellach wedi ymddeol, ac mae ganddi 6 o wyrion. Mae’n parhau i ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys creu llyfrau ac adnoddau darllen ar gyfer Darllen Co. Mae’n dal i deimlo’n angerddol am greu llyfrau difyr, doniol a gwreiddiol ar gyfer holl blant Cymru.
Elin Mair Roberts yw artist a darlunydd o ardal Pen Llŷn. Mae’n gweithio â llaw, yn bennaf mewn inc, ac yn mwynhau archwilio lliwiau a gweadau yn ei gwaith. Ar ôl iddi raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2023, mae wedi cael y cyfleoedd i weithio ar lu o gomisiynau, yn cynnwys ei gwaith diweddar ar gyfer Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Caiff ei hysbrydoli gan y byd o’i chwmpas, ei diddordebau yn y celfyddydau, a digwyddiadau cyfredol. Cafodd lwyddiant a chanmoliaeth uchel am ddarlunio’r gyfrol ‘Madog’ i Wasg Carreg Gwalch yn Awst 2025.
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.