Cofio Mair Penri a Dan Puw
- Paperback
168 pages
- Release Date
28 April 2022
Summary
The community of Parc near Bala lost two valuable members in 2019; it was a loss felt throughout Wales. Both received the T. H. Parry-Williams Medal by the National Eisteddfod of Wales - the highest accolade for service to culture and community. This is a unique feat in the history of any village throughout Wales.
Book Details
| ISBN-13: | 9781845278885 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1845278887 |
| Author: | Gwen Edwards, Gwasg Carreg Gwalch |
| Publisher: | Gwasg Carreg Gwalch |
| Imprint: | Gwasg Carreg Gwalch |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 168 |
| Release Date: | 28 April 2022 |
| Weight: | 206g |
| Dimensions: | 10mm x 128mm x 198mm |

You Can Find This Book In
Critics Review
Yn ôl y testun ar gefn y llyfr ‘Collwyd dau aelod o gymdeithas y Parc ym Mhenllyn yn 2019; roedd hi’n golled i Gymru gyfan … Penderfynwyd cofio am y ddau ar y cyd mewn cyfarfod yn y Parc ddechrau 2020. Y teyrngedau a’r perfformiadau hynny yw sail y gyfrol hon. Yn wahanol i’r arfer, mae’n addas a gweddus cofio am y ddau gyda’i gilydd – maent yn cyfannu cylch o hiwmor, hwyl, dawn ac angerdd mewn meysydd gwahanol sy’n perthyn i’r un diriogaeth.’Cyfrol gymysg a gawn yma, felly o deyrngedau, atgofion a gweithiau Dan Puw a Mair Penri eu hunain – boed yn erthygl i Pethe Penllyn, ymson, monolog neu sgets. Mae’r teyrngedau a’r atgofion wedi’u cyflwyno drwy’i gilydd, ac mae yma lawer iawn o luniau difyr hefyd.R. Alun Evans sydd wedi ysgrifennu’r cyflwyniad, sy’n ddewis addas iawn gan mai ef sydd wedi bod yn Feistr Defod Medal Syr T. H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 2003, gan anrhydeddu Mair Penri Jones yng Nghaerdydd yn 2008 a Dan Puw ym Modedern yn 2017. Cawn deyrngedau ac atgofion am Dan gan Gwen Edwards, ei blant Mererid, Euros, Iolo, Ffuon a Guto, ei nai – y diweddar Gareth Pierce, pwyllgor y Gymdeithas Gerdd Dant, Arfon Williams, ei wyrion Gwenno, Ceredig a Martha Puw, Huw Antur a Myrddin ap Dafydd.Daw’r teyrngedau a’r atgofion am Mair gan Gwen Edwards, Rhian Dafydd, ei mab Siôn Pennant, Joyce Huw, Siân a Siwan ei pherthnasau, Penri ei gŵr, Tegwen Morris Merched y Wawr, Lloyd Davies a Caoimhe Melangell ei hwyres. Mae yma sawl teyrnged i’r ddau gan feirdd hefyd.Roeddwn i’n nabod y ddau ohonynt gan fy mod yn dod o’r un ardal, ond rwyf wedi dod i’w nabod yn llawer gwell drwy’r gyfrol hon, gan ddysgu am eu cefndir ac am yr holl bethau a wnaethant yn ystod eu bywydau. Dysgais rai pethau annisgwyl hefyd – pwy feddyliai mai Dan oedd y cyntaf i wneud gosodiad cerdd dant ar gyfrifiadur, ac ar sail hynny bu’n cynnal cwrs gosod ar gyfrifiadur i’r Gymdeithas Gerdd Dant. Ac er mai fel dynes hwyliog yn byrlymu o hiwmor y mae’r rhan fwyaf yn cofio Mair, diddorol oedd darllen mai dramâu difrifol a dwys oedd yn mynd â’i bryd. Roedd hiwmor arbennig yn perthyn i’r ddau ac mae hynny i’w weld yn gryf yn y llyfr. Beth sy’n amlwg hefyd yw eu bod wedi cael dylanwad ar gymaint o bobl ifanc a hŷn – drwy hyfforddi, eu gwaith ym myd cerdd dant, y ddrama, Merched y Wawr ac yn ehangach. A chymaint yn ddiolchgar iddynt.Prynwch y gyfrol deyrnged hon – mae’n fargen am £8. Cewch ddysgu mwy am y ddau arbennig yma a roddodd bentref bach y Parc ar y map. – Nest Gwilym @
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.