Paperback
New life, new school, old secrets sing from Wales’s coast.

Galwad yr Alarch

$14.10
  • Paperback

    120 pages

  • Release Date

    21 October 2024

Check Delivery Options

Summary

A short novel about rounded characters to appeal to readers and draw them into the story. Dylan is unhappy. Ever since he entered secondary school, everything has been getting too much for him. He has now been expelled from school and his mother decides to move to a small village on the west coast of Wales, where she was born and where his grandfather lives.

Book Details

ISBN-13:9781845279547
ISBN-10:1845279549
Author:Gill Lewis
Publisher:Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:Gwasg Carreg Gwalch
Format:Paperback
Number of Pages:120
Release Date:21 October 2024
Weight:158g
Dimensions:10mm x 128mm x 198mm
Audience Age:12
Mass Market
Galwad yr Alarch by Gill Lewis - ISBN: 9781845279547
5.04 × 7.80 in
Digest
Trade Paperback
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Ond pan mae Taid yn cynnig i Dylan ddod yn ei gwch gydag ef i’r aber i wylio’r elyrch yn dychwelyd i’w tir gaeaf, mae pethau’n dechrau newid. Dydi Taid ddim yn beirniadu nac yn holi; mae’n gadael llonydd i Dylan fod fel y mae.Allan ar y dŵr, heb bwysau a heb fân bethau i’w ddrysu, mae Dylan yn dechrau cael hyd i’w draed eto. Mae gweld yr elyrch yn ‘cyrraedd adref’ yn rhoi gwefr iddo. Ond mae tir gaeaf yr adar mewn peryg ac mae tristwch yn taro’r cartref. All Dylan ddal ati pan mae pethau fel pe baen nhw’n llithro o’i afael eto?“Doedd Sol ddim yn medru rhoi’r llyfr yma i lawr. Mi gafodd ei lyncu yn llwyr gan y stori.” – mam darllenydd ifanc – Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Dychmygwch deimlo’n rhydd. Dychmygwch beth fyddech chi’n ei wneud petai gennych amser i wneud dim byd, a’r holl bethau sy’n arfer eich cadw’n brysur yn bell i ffwrdd. A dychmygwch fod mewn lle sy’n gadael i elyrch benderfynu pryd mae’r gaeaf yn cychwyn. Dyna sy’n digwydd i fachgen ifanc o fewn ychydig dudalennau yng nghanol y gyfrol fechan hon. Yn sydyn iawn, mae byd yr ysgol yn atgof pell, a rhyw fywyd newydd, lle mae’n teimlo’n fodlon, yn agor ei ddrysau iddo.Dyma nofel sy’n trafod profiad bachgen ifanc, Dylan, sydd ym Mlwyddyn 8 yr ysgol pan mae ei fywyd yn cael ei droi ben i waered wrth iddo gael ei wahardd o’r ysgol, ac yn gorfod symud i fyw i bentref tawel glan môr at ei daid. Mae’n fyd cwbl anghyfarwydd i’r arddegyn, ond y syndod mawr iddo ef a’i fam ydy ei fod yn teimlo’n gartrefol yn y byd newydd hwn. Does ganddo ddim o’r pleserau arferol o’i fywyd blaenorol – dim teledu na Xbox na’u tebyg, ond mae yma bethau newydd sy’n mynd â’i sylw ac yn ei blesio.Mae’r nofel fer hon wedi’i chyflwyno mewn ffordd hyfryd – nid yn unig mae llun clawr o baentiad trawiadol gan Rhian Llewelyn Hughes, ond mae hefyd ddarlun syml yn rhedeg ar hyd gwaelod pob tudalen o’r gyfrol, gan ychwanegu naws ymlaciol i leoliad storïol, tawel. Mae yma 19 o benodau byrion, ac mae’r brawddegau a’r paragraffau cryno yn golygu bod llif y stori yn rhwydd a chyflym. Does dim geiriau gwastraffus yma, na gormod o frawddegau hirion a disgrifiadol – mae pwrpas i bob gair a phob brawddeg.Fel yn llawer o waith yr awdur Gill Lewis, mae adar ac anifeiliaid yn cael sylw haeddiannol, ac yn fodd o brocio’r darllenydd i ystyried ei amgylchfyd a phwysigrwydd gwarchod byd natur. Mae’r prif gymeriad yn sylweddoli pwysigrwydd bywyd gwyllt, ac fe ddysgwn pa mor llesol yw bod yng nghefn gwlad ymysg byd natur. Mae’r stori yn ennyn cydymdeimlad yn y prif gymeriad, ac yn ei gymuned newydd hefyd, gan gynnwys y gymuned o elyrch sy’n preswylio yn yr ardal yn flynyddol. Dyma stori i’ch gwneud i deimlo’n dda, ac i’ch atgoffa bod goleuni ar ddiwedd y twnnel, hyd yn oed pan rydych yn teimlo’n isel – bod daioni yn y byd, a gobaith a harddwch, hyd yn oed pan fo pethau yn teimlo’n ddu. – Awen Schiavone @ ffolio.cymru

About The Author

Gill Lewis

Mae Gill Lewis yn gyn-filfeddyg o fri sydd bellach yn awdur toreithiog o nofelau i blant. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys adar ac anifeiliaid, ac fe’i cynlluniwyd i annog darllenwyr ifanc i feddwl am eu hamgylchfyd a’r angen i warchod byd natur.

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.