Hardcover
Garden club’s global street food saves their beloved garden.

Bwyd y stryd, bwyd y byd

$16.95
  • Hardcover

    40 pages

  • Release Date

    17 February 2025

Check Delivery Options

Summary

When the lovely school garden is threatened, it’s time for members of Mr Thomas’s Garden Club to act! They hold a community food festival to raise money, finding recipes from the various cultures of their families and using the garden’s produce to create dishes from all over the world. Part of the Rhyngom Scheme.

Book Details

ISBN-13:9781801064538
ISBN-10:1801064539
Author:Gail Sequeira, Valériane Leblond
Publisher:Atebol Cyfyngedig
Imprint:Atebol Cyfyngedig
Format:Hardcover
Number of Pages:40
Release Date:17 February 2025
Weight:524g
Dimensions:5mm x 230mm x 270mm
Mass Market
Digest
Trade Paperback
Bwyd y stryd, bwyd y byd by Gail Sequeira - ISBN: 9781801064538
9.06 × 10.63 in
US Letter
mm / in
What They're Saying

Critics Review

Mae’r llyfr hyfryd hwn yn stori am ymgyrch gan Glwb Garddwyr Ifanc Ysgol Gynradd Dewi Sant yn erbyn penderfyniad y Cyngor i godi stad o dai newydd ar safle eu gardd. Mae gan y plant gefndiroedd ethnig amrywiol iawn, ac felly maen nhw’n penderfynu codi arian i’r achos trwy ofyn i’w teuluoedd am ryseitiau am fwyd stryd o wahanol rannau o’r byd.Prif gynnwys y llyfr yw’r ryseitiau hyn. Mae yma fwyd o India, Korea, Moroco, Mecsico, Tsieina, Palesteina, Gwlad Pwyl, Senegal a’r Eidal yn ogystal ag o Gymru, ac mae pob rysáit wedi’i rhagflaenu gan bennod fer lle mae un o’r plant, fel arfer yng nghwmni ffrind neu ddau, yn holi aelodau hŷn y teulu am y rysáit a’i chefndir. Mae’r hanesion hyn yn rhoi cipolwg i’r darllenydd ar ddiwylliannau amrywiol. Mae’r ryseitiau eu hunain wedi’u gosod allan yn glir iawn. Roedd fy mab chwech oed wrth ei fodd â’r syniad o roi cynnig ar rai ohonynt – hyd yma rydym wedi gwneud risolau Eddie a chouchous Zeenab, y ddau’n llwyddiannus, ac rwy i’n siŵr y byddwn yn ceisio rhagor o’r ryseitiau. Mae yna olion blawd ac olew ar y llyfr yn barod, fel sydd i’w gweld ar bob llyfr ryseitiau gwerth ei halen!Ar ôl y gyfres o ddeg rysáit, mae gennym ddiweddglo i’r stori. Ni fyddaf yn datgelu llawer am hyn, ond mae’n werth nodi bod y llyfr yn amlygu’r cysylltiad rhwng y bwyd ar ein platiau a’r broses o dyfu’r llysiau a ffrwythau – sy’n neges amserol iawn. Wrth fynd heibio, dysgwn rywfaint, mewn modd cynnil, am gymeriad y plant a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Mae lluniau hyfryd Valériane Leblond yn ategu’r testun yn berffaith. Llyfr gwych iawn. – Simon Rodway @

Returns

This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.