Y Gelfyddyd Gymodlawn
T. Gwynn Jones a Cherddoriaeth
- Paperback
280 pages
- Release Date
14 February 2026
Summary
Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â gwaith T. Gwynn Jones (1871–1949), un o brif feirdd Cymraeg yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio’n benodol ar berthynas ei waith â cherddoriaeth.
Roedd T. Gwynn Jones yn fardd dylanwadol a thoreithiog, a derbyniodd gryn sylw beirniadol a bywgraffyddol – ond dyma’r drafodaeth gyntaf ar ei waith mewn cyd-destun cerddorol. Fel yr astudiaeth gyntaf o’i math ym maes llenyddiaeth Gymraeg, mae’r llyfr yn gyflwyniad cyffrous i astudiaethau cerddo-lenyddol.
Mae’n craffu ar ddylanwad cerddoriaeth ar waith T. Gwynn Jones: cefndir cerddorol rhai o gerddi Caniadau; y rhai cannoedd o gyfieithiadau o eiriau caneuon; ymwneud y bardd â cherddoriaeth draddodiadol; a’r cydweithio helaeth fu rhyngddo a W. S. Gwynn Williams, sylfaenydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn.
Mae’r gyfrol yn ymdrin â thestunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, ac yn cynnig gwedd gwbl newydd ar waith bardd cyfarwydd.
Book Details
| ISBN-13: | 9781837723324 |
|---|---|
| ISBN-10: | 183772332X |
| Author: | Elen Ifan |
| Publisher: | University of Wales Press |
| Imprint: | Gwasg Prifysgol Cymru |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 280 |
| Release Date: | 14 February 2026 |
| Dimensions: | 138mm x 216mm |
| Series: | Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig |

You Can Find This Book In
Elen Ifan
Mae Elen Ifan yn Ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Astudiodd ei PhD ar T. Gwynn Jones a cherddoriaeth yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor.
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.