Y Lliwiau i Gyd - Stori Betty Campbell
Stori Betty Campbell
- Paperback
132 pages
- Release Date
26 September 2024
Summary
Yn 2021 dadorchuddiwyd cerflun arbennig o Betty Campbell yng Nghaerdydd; prifathrawes ddu gyntaf Cymru. Yn y nofel hon, sy’n gwau ffaith a ffuglen, hanes a hiwmor, cawn ddarllen am y Betty go iawn – am ei theulu, ei phlentyndod yn nociau Caerdydd yn y 1930au, ei chyfnod yn Aberdâr fel faciwî, a’i thaith ryfeddol wedi hynny.
Book Details
| ISBN-13: | 9781845279493 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1845279492 |
| Author: | Casia Wiliam |
| Publisher: | Gwasg Carreg Gwalch |
| Imprint: | Gwasg Carreg Gwalch |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 132 |
| Release Date: | 26 September 2024 |
| Weight: | 146g |
| Dimensions: | 12mm x 128mm x 198mm |
| Audience Age: | 12 |

You Can Find This Book In
Critics Review
Dyma ddarlun o berson cryf a phenderfynol wnaeth herio’r drefn, gan ysbrydoli sawl cenhedlaeth o blant y dociau, a thu hwnt.“Mae darlunio Betty Campbell fel plentyn yn tyfu i fyny ym Mae Teigr ar ei ffordd i fod yn athrawes ysbrydoledig, wedi bod yn brofiad brawychus ac emosiynol ar brydiau, ond pleserus iawn hefyd.Fy ngobaith yw bod y gwaith celf yn adlewyrchu natur chwareus ond teimladwy’r llyfr.” –Lewis Campbell“Stori gynnes a theimladwy am ferch ddu yn tyfu i fyny yn Nociau Caerdydd; merch a feiddiodd freuddwydio.” – Theresa Mgadzah Jones – Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Mae bywyd ysbrydoledig Betty Campbell MBE (1934–2017), brodor o Dre-Biwt a phrifathrawes ddu gyntaf Cymru, yn agos at fy nghalon.Mae nofel ddarllenadwy hon wedi’i hysgrifennu ar ffurf Betty yn adrodd stori ei bywyd hi’i hun fel gwers i ddosbarth o blant yn Ysgol Gynradd Mount Stuart – dull sy’n gweithio’n dra effeithiol. Mae’r brifathrawes yn cychwyn y stori yn ymateb i ddisgybl, Yassir Hassan, a ddatgelodd iddi ei bod wedi derbyn sylwad hiliol gan ddieithryn. Trwy dynnu ar esiamplau o’i bywyd hi ei hun, mae Betty yn rhannu gyda’r plant sut aeth ati i ymateb, herio a goresgyn hiliaeth a chaledi yn ei hoes.Ganed ym Mae Teigr yn 1934 i rieni â’u gwreiddiau yn India’r Gorllewin. Fel prifathrawes daeth Betty yn adnabyddus am hyrwyddo hanes pobl dduon yn yr ysgolion ac am gyflwyno cwricwlwm amlddiwyddiannol. Cawn weld yn y nofel sut roedd gwreiddiau athroniaeth Betty tuag at addysg gynhwysol i’w canfod yn ei phlentyndod, a’i phrofiad o gael ei chodi yng nghymuned amlgrefyddol, amlhiliol ac amlieithog y dociau.Cawn ystod o gymeriadau o blentyndod Betty, yn gyfeillion a chyfoedion Cymreig sy’n dod o gefndiroedd amrywiol – Aifftwyr, Somaliaid, Norwyiaid, Malaysiaid – fel yr eglurodd Betty’r brifathrawes i’w disgyblion:‘Mae’n bosib perthyn i fwy nag un wlad ac etifeddiaeth. Mae’n rhywbeth i fod yn falch ohono. Dwi’n Gymraes, ac yn falch iawn o hynny, ond mae gen i wreiddiau yn Jamaica, ac Iwerddon a Barbados, felly mae diwylliant y llefydd hyn i gyd yn perthyn i mi hefyd. Gallwn ni i gyd fod yn falch o’n cefndir, a dysgu am gefndiroedd ein gilydd hefyd.’Mae’r nofel wedi llwyddo i greu argraff o ddynes alluog, garedig, gwydn a phenderfynol. Cafodd blentyndod heriol. Roedd ei thad yn forwr a byddai’n absennol am fisoedd ar y tro – absenoldeb anodd i blentyn. Bu Betty yn faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi i’r dociau ddod yn darged i fomwyr Natsïaidd. Cafodd ei hanfon i Aberdâr lle dysgodd rywfaint o Gymraeg. Daeth ei fam ambell benwythnos i helpu ei gofalwraig, oedd yn wraig wen, i drin ei gwallt!Yn y bennod ‘Tro ar fyd’, mae Betty yn dysgu am ffawd ei thad yn y rhyfel – mae hon yn bennod ddirdynnol sydd wedi ei ysgrifennu mewn modd sensitif a theimladwy. Serch y tor calon a’r caledi, llwyddodd Betty yn academaidd ac enillodd ysgoloriaeth i fynd i ysgol ramadeg lle wynebodd ragfarn atgas athrawes a cheisiodd arllwys dŵr oer ar freuddwyd ‘anymarferol’ merch ddu i gymhwyso’n athrawes ysgol: ‘Ewch yn ôl i’ch sedd a meddwl eto, Betty.’Roedd Betty Campbell yn arloeswraig ym maes dysgu hanes pobl dduon mewn ysgolion; mae dysgu hanes pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol bellach wedi’i gynnwys yng Nghwricwlwm Cymru. Gyda chynrychiolaeth yn bwysig yn y cwricwlwm mae hefyd yr un mor bwysig yn ein llenyddiaeth, ac mae’n wych o beth fod y gyfrol ddarllenadwy ac addysgiadol hon wedi dod ȃ stori ysbrydoledig un o Gymry Du pwysicaf ein cyfnod i blant a phobl ifanc yn y Gymraeg. – Malachy Edwards @ ffolio.cymru
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.