Ymdroelli Tua'r Cant
- Paperback
224 pages
- Release Date
25 November 2019
Summary
One of Wales’ most popular and respected composers, Brian Hughes, shares his memories. Over 50 photographs.
Book Details
| ISBN-13: | 9781912173297 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1912173298 |
| Author: | Brian Hughes |
| Publisher: | Gwasg y Bwthyn Cyf |
| Imprint: | Gwasg y Bwthyn Cyf |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 224 |
| Release Date: | 25 November 2019 |
| Weight: | 370g |
| Dimensions: | 17mm x 151mm x 212mm |

You Can Find This Book In
Critics Review
Mae teitl y gyfrol ddifyr hon, a’i adlais o gân enwog Ceiriog, ‘Nant y Mynydd’, yn mynd â ni yn syth i ganol byd un o gerddorion disgleiriaf a mwyaf dylanwadol Cymru. Dathlodd ei 80 yn 2018, ac felly mae’n dal ymhell o’i gant; ond mae’r egni aruthrol a ddarlunnir yn hanes ei fywyd yn awgrymu ei fod yn hwylio’n gryf am ddogn dda o flynyddoedd eto. Mae’n adnabyddus fel cyfeilydd a chyfansoddwr ac yn enwedig am ei waith fel arweinydd a hyfforddwr llais. Yr hyn sy’n drawiadol yn ei hanes yw nid yn unig faint y mae wedi ei gyflawni, ond ystod eang ei waith. Cyflwynir y cyfan mewn ffordd ddiddorol a chyda digon o hiwmor.Mae’n olrhain ei gefndir yn un o froydd mwyaf cerddorol Cymru, sef ardal Rhosllannerchrugog a’r Poncie ac mae’n cydnabod ei ddyled i draddodiad cerddorol eithriadol y fro honno, ac i rai unigolion yn arbennig: Lottie Williams Parry, John Powell Edwards a George Walklett. Cafodd gyfle i hogi ei sgiliau yn fachgen ysgol trwy gyfeilio i gantorion profiadol mewn eisteddfodau a chyngherddau ac ennill parch mawr iddo’i hun am ei waith. Aeth yn ei flaen i astudio am radd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n cydnabod ei ddyled fawr i’w athrawon mewn ysgol a choleg.Fel athro cerdd yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug o 1961 ymlaen, sefydlodd nifer o gorau a fu’n eithriadol lwyddiannus mewn eisteddfodau ac ar lwyfan cyngerdd: Côr Ysgol Alun, Côr Merched y Rhos, a Chantorion Cynwrig, yr olaf yn gôr blaengar tu hwnt, a berfformiodd nifer o weithiau newydd a darlledu’n gyson rhwng 1961 ac 1981. Diogelwyd seiniau’r corau hyn ar recordiadau, a diolch am hynny.Wedi gadael Ysgol Alun ymunodd Brian Hughes â staff Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion lle bu’n gyfrifol am hyfforddi cantorion ac arwain operâu am gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Ceir ganddo ddisgrifiadau byw o’i brofiadau yn y maes, gan gynnwys ei ymwneud â Gŵyl Opera Buxton, ei waith yn rhai o wyliau’r cyfandir, a’r profiad o lwyfannu ei operâu ei hun. Sonnir am gantorion ac am rai o’i gydweithwyr, a rhennir atgofion amrywiol a gonest amdanynt. Mae’r awdur hefyd yn agored iawn a chyda gonestrwydd braf am ei wendidau ei hun, yn benodol ei ddiffygion ymarferol a’i anghofrwydd, sy’n rhoi gwedd ddynol iawn ar ei gyflwyniad.Magodd ef a’i wraig Cerys ddau blentyn cerddorol a gafodd lwyddiant eisteddfodol eithriadol. Ceir hefyd sylwadau craff ganddo ar broblemau beirniadu, gan gynnwys anaddasrwydd rhai darnau prawf a osodir mewn cystadlaethau amatur.Dyma olwg ar ŵr dawnus anghyffredin sydd wedi cyfrannu’n helaeth iawn i gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt, a bydd y gwaith o ddiddordeb i’r llaweroedd sy’n ei adnabod ac i bawb sy’n ymddiddori ym myd cerdd. Da yw inni gael ein hatgoffa o helaethrwydd gwaith a chyfraniad Brian Hughes: hwylied ymlaen at y cant! – Rhidian Griffths @ ffolio.cymru
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.