Dyddiadur Anne Frank
- Paperback
277 pages
- Release Date
31 August 2000
Summary
Ganed Anne yn Frankfurt am Main, Yr Almaen, yn 1929, ond oherwydd casineb cynyddol y Natsïaid tuag at Iddewon, penderfynodd Otto ac Edith Frank, rhieni Anne a’i chwaer Margot, ffoi i Amsterdam, Yr Iseldiroedd, yn 1933.
Yna, ar 6 Gorffennaf 1942, wedi i’r Natsïaid oresgyn y wlad, cuddiodd y teulu mewn rhandy dirgel uwchben swyddfa Otto Frank yng nghanol y ddinas. Ychydig wythnosau yn gynt, ar ei phen-blwydd yn 13 mlwydd oed, derbyniodd Anne ddyddiadur fel anrheg a chychwynodd ysgrifennu’i dyddiadur byd enwog.
Trwy dudalennau’r gyfrol hon, a addaswyd i’r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts, down i adnabod yr Anne Frank go iawn, a rhannu’r gobeithion a’r ofnau, y profiadau a’r emosiynau, a gofnodwyd ganddi yn ystod y ddwy flynedd y bu hi a’i theulu’n cuddio rhag y Natsïaid.
Book Details
| ISBN-13: | 9781899869015 |
|---|---|
| ISBN-10: | 1899869018 |
| Author: | Anne Frank, Eigra Lewis Roberts |
| Publisher: | Gwasg Addysgol Cymru |
| Imprint: | Gwasg Addysgol Cymru |
| Format: | Paperback |
| Number of Pages: | 277 |
| Release Date: | 31 August 2000 |
| Weight: | 355g |
| Dimensions: | 20mm x 135mm x 215mm |

You Can Find This Book In
Critics Review
Gwerth y llyfr yw ei naws amrwd a byrfyfyr a’r teimlad a rydd inni o ddarllen am bethau sy’n digwydd ar y pryd…mae’r testun yn darllen yn naturiol ac yn heini fel petai’r Gymraeg yn famiaith i Anne Frank Mihangel Morgan, Taliesin Mae’n gyfieithad rhagorol…hynodrwydd y dyddiadur yw ei fod wedi ei ysgrifennu gan ferch bedair ar ddeg oed…dim ond ychwanegu at ei werth a wna’r fersiwn estynedig yma…mae’n ychwanegiad pwysig i’r deunydd sydd ar gael yn y frwydr barhaus yn erbyn Ffasgaeth Angharad Tomos, Llais Llyfrau Addasiad graenus…rydw i’n teimlo fy mod wedi dod I adnabod Anne Frank yn well R.O. Williams, Golwg Gyda’r addasiad celfydd hwn…gallwn synhwyro o’r newydd wedd ar bersonoliaeth Anne a gadwyd o dan gaead hyd yma…y gwir amdani yw bod holl ddyddiadura Anne yn galeidoscop o ddaioni a drygioni y natur ddynol ac yn rhoi inni ddrych o gyfnod ac o gymeriadau y gallwn i gyd eu hadnabod Menna Elfyn, Barn
Returns
This item is eligible for simple returns within 30 days of delivery. Return shipping is the responsibility of the customer. See our returns policy for further details.